Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Covid-19 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 27 05 2020
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 27 Mai 2020
Dyddiad cau wedi'i gadarnhau ar gyfer cyllid busnes
Mae gan fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hyd at 5pm ar 30 Mehefin 2020 i wneud cais am gymorth cyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Wedi'i gynllunio i helpu masnachwyr i fynd i'r afael â heriau cyfyngiadau symud yn ystod pandemig y coronafeirws COVID-19, mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru ac sydd wedi’u lleoli mewn adeilad sydd â gwerth ardrethol o £ 12,000 neu lai. Mae'n cynnwys y rheini sy'n dod o dan y trothwy rhyddhad ardrethi busnesau bach gwerth £6,000 ac nad ydynt yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. Mae grantiau hefyd ar gael i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Gellir gwneud ceisiadau drwy gwblhau ffurflen ar-lein. Er mwyn osgoi oedi wrth brosesu ceisiadau, mae'n hanfodol fod yr holl ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth hanfodol a chywir, gan gynnwys copïau o gyfriflenni banc sy'n dangos manylion banc.
Cefnogwyd mwy na 2,200 o fusnesau hyd yn hyn
Ers lansio'r pecyn achub ariannol gwerth £1.4 biliwn, mae'r cyngor wedi prosesu 2,204 o geisiadau ac mae wedi dyrannu mwy na £27.3 miliwn i gwmnïau lleol er mwyn eu helpu i gwrdd â heriau parhaus cyfyngiadau symud pandemig y coronafeirws. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y cyngor.
‘Odrifau’ yn y canolfannau ailgylchu
Bydd ceir lle mae digid olaf rhif y cerbyd yn odrif yn gallu cael mynediad at ganolfannau ailgylchu cymunedol ddydd Iau 28 Mai. Mae'r canolfannau, sydd wedi'u hagor at ddefnydd hanfodol yn unig, yn defnyddio system rhif cerbyd eilrif/odrif er mwyn cyfyngu ar faint o amser y mae'n rhaid i yrwyr aros. Yn Llandudwg, dim ond cerbydau sy'n teithio i mewn o'r A48 fydd yn cael mynediad, ni fydd mynediad at y safle o'r A4106, sef Ffordd Pen-y-bont ar Ogwr. Ym Mrynmenyn, mae cerbydau yn defnyddio dargyfeiriad er mwyn cyrraedd y safle a gofynnir i yrwyr beidio â rhwystro mynediad at fusnesau lleol. Mae llwybrau mynediad at y safle ym Maesteg yr un peth ag arfer. Gwiriwch dudalen ailgylchu’r cyngor ar gyfer yr amserlen ac i gael mwy o fanylion ynglŷn â phryd a sut y gellir defnyddio'r safleoedd.
Cymorth ar gyfer pobl hŷn
Mae Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwasanaeth ‘help llaw’ yn rhad ac am ddim i bobl hŷn sy'n hunanynysu ac sy'n methu â chasglu bwyd, meddyginiaeth ac eitemau hanfodol eraill. Am ragor o fanylion, ffoniwch 01656 646755 neu ewch i https://www.careandrepair.org.uk/cy/
Gwasanaeth achubwyr bywyd wedi'i atal
Gyda rhagolygon tywydd da a thymheredd uchel am weddill yr wythnos, atgoffir preswylwyr bod patrolau achubwyr bywyd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) wedi'u hatal ar draethau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr tra bydd pandemig y coronafeirws yn parhau. Mae hyn yn golygu na fydd patrolau ar Draeth Coney, Rest Bay, Bae Pinc neu Fae Trecco nes bydd hysbysiad pellach.
Peidiwch â dioddef mewn tawelwch
Mae amrediad o gymorth brys ar gael o hyd trwy gydol pandemig parhaus y coronafeirws COVID-19. Mae’r cymorth a gynigir gan wasanaeth Assia Suite Calan DVS ar gyfer trais domestig yn canolbwyntio'n bennaf ar gyswllt dros y ffôn, gydag apwyntiadau personol yn cael eu cynnal lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Mae llety lloches yn parhau, fel y mae cymorth ar alwad – gallwch gael help neu ddarganfod mwy drwy ffonio 01656 815919 neu e-bostiwch assia@calandvs.org.uk. Mae Hwb Diogelu Amlasiantaethol Pen-y-bont ar Ogwr, neu MASH, hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau diogelu ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i newid. Gallwch adrodd pryderon ynglŷn â phlentyn i 01656 642320 neu mashcentra@bridgend.gov.uk. Gellir cyfeirio pryderon ynghylch oedolion i 01656 642477 neu adultsafeguardingMASH@bridgend.gov.uk, a gallwch ymweld â thudalen MASH am ragor o wybodaeth.
Cael mynediad at fanciau bwyd
Gallwch gael y newyddion diweddaraf ynghylch pa fanciau bwyd sydd ar agor a sut y gellir cael mynediad atynt yn ystod y pandemig parhaus drwy ymweld â gwefan Banc bwyd Pen-y-bont ar Ogwr neu wrth wirio'i dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor.
Cysylltu â'r cyngor
Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.