Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Covid-19 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Wrth i bandemig y coronafeirws COVID-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.

Cynlluniau ar gyfer ailagor canolfannau ailgylchu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill i ddatblygu dull Cymru gyfan ar gyfer ailagor canolfannau ailgylchu cymunedol yn ddiogel. Gan ddefnyddio meini prawf ar gyfer Cymru gyfan, bydd y canolfannau’n ailagor unwaith y mae'r cyngor a'i bartner gwastraff Kier yn fodlon fod lefelau staffio a gweithdrefnau digonol ar waith i gynnal iechyd a diogelwch gweithwyr a thrigolion fel ei gilydd. Cyhoeddir manylion pellach cyn bo hir.

Newidiadau i gyfyngiadau symud

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae nifer o newidiadau yn cael eu gwneud i’r cyfyngiadau symud, gan gynnwys galluogi pobl i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y diwrnod cyn belled â'u bod yn aros yn lleol ac nad ydynt yn gyrru i leoliad arall at y diben hwn. Mae trafodaethau ar waith gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Halo Leisure ynghylch sut y gellid ailddechrau gwasanaeth llyfrgell o fewn y fwrdeistref sirol, gyda phwyslais unwaith yn rhagor ar gadw pellter cymdeithasol, gofynion teithio nad ydynt yn hanfodol, a mwy. Mae busnesau nad ydynt yn hanfodol yn parhau i fod ar gau, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori y gall canolfannau garddio ailagor cyn belled â'u bod yn gallu dangos bod gweithdrefnau priodol ac addas ar waith ar gyfer cadw pellter cymdeithasol – bydd hyn yn cael ei reoleiddio a'i weithredu gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Mae'r gwaith o weithredu'r rheoliadau sydd wedi'u diweddaru ar waith.

Gwaith draenio ar yr M4

Gyda llai o draffig ar y ffyrdd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws COVID-19, mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn lleihau anghyfleustra a tharfu trwy gynnal gwaith draenio brys ar hyd yr M4.

Bydd y gwaith, a fydd yn gofyn am gau'r ffordd dros gyfres o nosweithiau, yn digwydd o hyn i 23 Mai. Bydd y briffordd yn dal i fod ar agor yn ystod y dydd, a bydd gwiriadau ar waith tra bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y nos. Ni fydd unrhyw waith yn cael ei gynnal dros y penwythnosau.

Cymorth ar gyfer busnesau lleol

Mae'r cyngor yn darparu amrediad o gymorth er mwyn helpu busnesau i baratoi ar gyfer ailagor yn raddol. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar-lein ar gyfer busnesau ynghylch atal a rheoli heintiau, a chael mynediad posibl at gynhyrchion fel sgriniau tisian. Mae'r cyngor hefyd yn ceisio gwybodaeth gan fusnesau er mwyn targedu'r math cywir o gymorth busnes – mae ffurflen ar-lein wedi'i chreu i gefnogi hyn.

Cyngor i fusnesau am y pandemig

Mae busnesau yn cael eu hannog i wirio tudalen wybodaeth y cyngor am y coronafeirws (COVID-19) i weld diweddariadau rheolaidd ynghylch y cymorth sydd ar gael, yn ogystal â gwefannau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gellir anfon ymholiadau cyffredinol am gymorth i fusnesau i business@bridgend.gov.uk

Cynllun benthyciadau newydd i fusnesau

Mae cynllun newydd gan Lywodraeth y DU, sef y Cynllun Benthyciadau Adfer yn Sgil y Coronafeirws, bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Gall busnesau fenthyca rhwng £2,000 a £50,000 am dymhorau hyd at chwe blynedd, a bydd y llywodraeth yn gwarantu 100% o'r benthyciad. Ni fydd unrhyw ffioedd na llog i'w dalu am y 12 mis cyntaf, a bydd y llywodraeth yn gweithio gyda rhoddwyr benthyciadau i gytuno ar raddfa llog isel ar gyfer yr hyn sy'n weddill o dymor y benthyciad. Caiff y cynllun ei ddarparu trwy rwydwaith o roddwyr benthyciadau achrededig ac mae manylion ar gael ar wefan y llywodraeth.       

Cynlluniau ar gyfer rhyddhad ardrethi

Mae'r cyngor yn gweithio i weithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun manwerthu, hamdden a lletygarwch newydd ac ehangach sydd â’r bwriad o gynorthwyo busnesau cymwys yn ystod y pandemig COVID-19. Fel rhan o'r cynllun, bydd biliau ardrethi busnesau oedd yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr yn 2019/20 yn cael eu diwygio fel eu bod yn derbyn rhyddhad ardrethi gwerth 100 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Bydd busnesau o fewn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi bod yn gymwys ar gyfer grant hefyd yn derbyn rhyddhad ardrethi estynedig gwerth 100 y cant yn awtomatig. Bydd ffurflenni cais i gadarnhau cymhwysedd yn cael eu dosbarthu i unrhyw fusnes sy'n dod yn destun ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn, fel deiliad newydd.

Cymorth gwerth £26.2 miliwn i fusnesau lleol

Gyda 2,103 o geisiadau wedi'u prosesu hyd yn hyn, mae mwy na £26.2 miliwn wedi'i ddosbarthu i gwmnïau lleol mewn cyllid grant i fusnesau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Nghymru ac sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae hefyd yn cynnwys y rheini sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes ar hyn o bryd, a busnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Gellir gwneud ceisiadau drwy gwblhau'r ffurflen ar-lein.

Cyfleoedd gofal cymdeithasol

Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion mwyaf bregus y fwrdeistref sirol. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs hyfforddiant gloywi cyflym ar gael. I wneud cais neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalennau swyddi gwefan y cyngor.          

Cysylltu â'r cyngor

Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio cyfleusterau Fy Nghyfrif a gwe-sgwrs Oggie ar-lein, neu e-bostio talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.

Chwilio A i Y