Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â Covid-19 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 12 Mehefin 2020
Wrth i'r pandemig coronafeirws Covid-19 barhau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio'i adnoddau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a diogelu trigolion sy'n agored i niwed. Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi crynodeb o'r datblygiadau diweddaraf.
Gofal plant brys – diweddariad pwysig
Mae newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i'r ddarpariaeth gofal plant brys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y bydd disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn raddol. , Bydd hybiau gofal plant brys yn cau ddydd Gwener, 19 Mehefin a bydd gofal brys yn cael ei ddarparu yn ysgol pob plentyn. Bydd hyn ar gael rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun, 22 Mehefin hyd at ddydd Gwener, 24 Gorffennaf. Bydd safleoedd yn gyfyngedig oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, a byddant ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd angen cyflwyno ceisiadau ar-lein ar wefan y cyngor erbyn 12pm bob dydd Mercher – noder na fydd yn bosibl prosesu ceisiadau hwyr, a bydd angen i unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais am ddyddiadau ar ôl 29 Mehefin ailymgeisio.
Gofal plant yn ystod gwyliau'r haf
Cynghorir rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr nad yw'r cyngor yn gallu cadarnhau ar hyn o bryd a fydd darpariaeth gofal plant brys ar gael yn ystod gwyliau haf yr ysgol (o ddydd Llun 27 Gorffennaf hyd at ddydd Mawrth 1 Medi). Darperir rhagor o wybodaeth cyn gynted â phosibl.
Agor Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun
Bydd Marchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr yn ailagor yn rhannol ar 15 Mehefin er mwyn gadael i fusnesau ddechrau masnachu unwaith yn rhagor. Bydd system unffordd a marciau llawr dau fetr ar wahân ar waith er mwyn helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol, ac mae gorsafoedd hylif diheintio dwylo wedi'u gosod. Bydd asesiad risg llawn yn cael ei gynnal, a chytunwyd ar fynediad trwy'r prif ddrysau mynediad wrth ymyl WH Smiths. Bydd y cyngor yn monitro'r sefyllfa'n agos i sicrhau y gellir cynnal amgylchedd siopa a gwaith diogel.
Cwmni lleol yn cynhyrchu pecyn gwrthgyrff
Mae cwmni lleol wedi'i ddewis i gynhyrchu prawf gwrthgyrff ar gyfer y DU gyfan. Gan weithio ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae Ortho Clinical Diagnostics a leolir ym Mhencoed yn cefnogi ymdrechion i ddatblygu imiwnedd yn erbyn Covid-19.
Gwasanaeth archebu a chasglu yn dechrau
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio gwasanaeth archebu a chasglu llyfrau newydd ddydd Llun, 15 Mehefin. Ar gael yn Llyfrgell y Pîl i ddechrau, bydd aelodau’r llyfrgell yn gallu gwneud cais am becynnau o lyfrau o ystod o genres neu ddiddordebau penodol, gan gynnwys nofelau trosedd, llyfrau plant, ffuglen ar gyfer oedolion ifanc a mwy a chasglu’r llyfrau hynny. Pan fyddant yn cael eu dychwelyd, bydd y llyfrau'n cael eu rhoi i’r naill ochr am gyfnod penodedig cyn eu bod yn cael eu dosbarthu unwaith yn rhagor er mwyn atal y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Os bydd gwasanaeth y Pîl yn llwyddiannus, bydd ail wasanaeth yn cael ei lansio yn Llyfrgell Abercynffig ar 22 Mehefin. I gael rhagor o fanylion, ewch i wefan Llyfrgelloedd Awen.
Ailagor yn raddol ym Mryngarw
Mae Parc Gwledig Bryngarw wedi dechrau ailagor yn raddol. Ni chodir unrhyw daliadau parcio ar geir hyd nes y ceir hysbysiad pellach, ond noder na fydd cyfleusterau toiled ar gael, a chynghorir ymwelwyr i osgoi'r maes chwarae ac ardaloedd offer campfa awyr agored y parc. Bydd B-leaf ac ystafell de Cedars yn aros ar gau hyd nes y ceir hysbysiad pellach. Anogir ymwelwyr i ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol a'r gweithdrefnau hylendid dwylo ar bob adeg. Bydd Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn monitro'r sefyllfa yn fanwl, a gall wneud newidiadau pellach yn ôl y gofyn.
Cyngor busnes ynglŷn â'r pandemig
Mae busnesau yn cael eu hannog i wirio tudalen wybodaeth y cyngor ynglŷn â'r coronafeirws
i weld diweddariadau rheolaidd ynghylch y cymorth sydd ar gael, yn ogystal â gwefannau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Gellir anfon ymholiadau cyffredinol am gymorth i fusnesau i mailto:business@bridgend.gov.uk
Sicrhewch eich bod yn cael gwared ar negeseuon diangen, osgoi sbam ac arbed amser.
Cyfleoedd gofal cymdeithasol
Mae angen cael hyd i fwy o bobl i helpu i gefnogi trigolion y fwrdeistref sirol sy’n fwyaf agored i niwed. Mae nifer o gyfleoedd cyflogaeth ar gael, a gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sydd wedi gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn flaenorol neu sy'n meddu ar sgiliau trosglwyddadwy. Mae proses ymgeisio llwybr carlam a chwrs gloywi cyflym ar gael. Cewch ragor o wybodaeth neu gwnewch gais am rolau gofal cymdeithasol ar-lein.
Cysylltu â'r cyngor
Mae'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid yn Swyddfeydd Dinesig Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, yn dal ar gau i'r cyhoedd. Gofynnir i drigolion ddefnyddio Fy Nghyfrif ar-lein a defnyddio'r cyfleuster gwe-sgwrs ar ein tudalen gartref trwy glicio ar yr eicon Oggie, neu anfon e-bost at talktous@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 643643.