Y trefniadau diweddaraf ar gyfer profion symudol a brechlynnau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Ionawr 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cadarnhau bod disgwyl i'w ganolfannau brechu a phrofi symudol aros ar agor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y penwythnos hwn yn wyneb rhybudd tywydd newydd gan y Swyddfa Dywydd.
Er bod rhybudd tywydd blaenorol wedi arwain at eira a rhew trwchus y penwythnos diwethaf a chau cyfleusterau lleol, ni ddisgwylir i'r rhybudd newydd effeithio ar y fwrdeistref sirol mor ddifrifol.
Mae'r ganolfan brofi gyrru drwodd ar safle hen ffatri Revlon / Cosi oddi ar Oakwood Drive ym Maesteg (CF34 8TS) wedi'i hymestyn tan ddydd Iau 4 Chwefror a bydd ar gael rhwng 9am a 4pm.
Bydd y cyfleuster profi cerdded drwodd hirdymor ym maes parcio Neuadd Bowls yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH) hefyd ar gael rhwng 8am ac 8pm.
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol yn y ddau gyfleuster, a gallwch ddarganfod mwy a threfnu apwyntiad trwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.
Bydd canolfan frechu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd ar gael. Mae'r ffigyrau diweddaraf wedi cadarnhau bod 53,202 o bobl bellach wedi derbyn eu pigiad cyntaf o'r brechlyn coronafeirws ar draws y rhanbarth, gan gynnwys mwy na 14,600 o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i frechu gweithwyr rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda meddygon teulu i sicrhau y gall pobl fregus sy'n gaeth i'r tŷ neu a allai fod yn gwarchod eu hunain gael brechiad cyn 14 Chwefror.
Mae timau brechu symudol wedi ymweld â phob cartref gofal yn y fwrdeistref sirol, ac mae preswylwyr a staff wedi cael eu hasesu.
Mae'r holl breswylwyr cartrefi gofal y datganwyd eu bod yn feddygol ffit wedi derbyn eu dos cyntaf, ac mae cynlluniau ar waith i'r timau ddychwelyd a brechu unrhyw un nad oedd yn ddigon iach i'w dderbyn y tro cyntaf, gyda sesiynau brechu'n parhau drwy gydol y penwythnos.
Mae meddygon teulu yn canolbwyntio ar bobl 70 oed a hŷn, ac yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol am gyflenwad brechlynnau, mae'r bwrdd iechyd yn rhagweld y bydd hyd at 25 y cant o'r grŵp blaenoriaeth hwn wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn dydd Sul 31 Ionawr.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae'n parhau'n bwysig i unrhyw un sy'n profi symptomau coronafeirws wneud yn siŵr eu bod yn trefnu prawf am ddim, naill ai drwy ymweld â'r cyfleuster symudol neu drwy ddefnyddio'r safle profi tymor hwy yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
"Mae'r rhaglen frechu yn parhau i dargedu'r aelodau mwyaf bregus ac agored i niwed yn y gymuned, ac mae meddygfeydd lleol yn cysylltu â phobl pan mai eu tro nhw yw derbyn dos.
"Er nad yw'r tywydd garw a ragwelir yn debygol o effeithio ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y bwrdd iechyd yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa, a gallwch edrych ar wefan Cwm Taf am fwy o fanylion.
"Peidiwch ag anghofio y gallwch hefyd chwilio am symptomau coronafeirws drwy ymweld â gwefan GIG 111 Cymru, a threfnu apwyntiad mewn cyfleuster profi lleol drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu ffonio 119.
“Os oes gennych broblemau gyda'ch clyw neu leferydd, gallwch drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.”