Y rhan fwyaf o fferyllfeydd yn cynnig profion dyfais llif unffordd am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021
Mae pecynnau hunan-brofi cyflym Covid-19 rhad ac am ddim bellach ar gael i bobl heb unrhyw symptomau eu casglu o nifer o fferyllfeydd lleol ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yng Nghymru, gallwch gael profion llif unffordd i chi a'ch aelwyd os:
- ydych yn wirfoddolwr
- na allwch weithio gartref
- ydych yn ofalwr di-dâl
- ydych yn ymweld â Chymru o rywle arall
- ydych yn teithio i ardaloedd eraill yn y DU
- yw eich bwrdd iechyd yn gofyn i chi gael prawf cyn ymweld â'r ysbyty
- ydych chi neu eich partner yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth yr ysbyty
- ydych yn rhiant, gofalwr neu warcheidwad plentyn yn yr ysbyty
- ydych yn mynd i ddigwyddiad sy'n gofyn i chi gael prawf
Os ydych yn cael profion drwy eich cyflogwr neu leoliad addysg, dylech barhau i wneud hynny.
Gall pobl hawlio pecynnau profion llif unffordd mewn amrywiaeth o ffyrdd - naill ai drwy eu harchebu ar-lein o wefan Llywodraeth y DU, eu casglu'n bersonol o bwynt casglu pwrpasol, megis maes parcio'r Neuadd Fowlio yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 8am – 1pm, saith diwrnod yr wythnos, neu drwy eu casglu o fferyllfa sy'n cymryd rhan. Darganfyddwch a yw fferyllfa yn agos at eich cartref yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Mae profion llif unffordd cyflym yn galluogi pobl heb symptomau coronafeirws brofi a ydynt wedi'u heintio â'r feirws.
Gwyddom nad yw oddeutu un o bob tri o bobl sydd wedi'u heintio â Covid-19 yn cael symptomau ond gallant heintio eraill sy'n golygu mai i'r bobl hyn, cael prawf yn rheolaidd yw'r unig ffordd o wybod a ydych wedi'ch heintio â'r feirws. Os yw pobl yn profi'n bositif ac yn hunanynysu, mae'n helpu i atal lledaeniad y feirws.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Am ragor o wybodaeth neu i archebu pecyn hunan-brofi ar-lein, ewch i dudalen we profion Covid-19 Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych symptomau Covid-19, mae angen i chi archebu prawf PCR (ar gov.uk).