Y newidiadau diweddaraf i sut gall pobl gael mynediad i ganolfannau ailgylchu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 05 Mehefin 2020
Bydd nifer o newidiadau i sut mae pobl yn gallu defnyddio canolfannau ailgylchu cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau wythnos nesaf.
O ddydd Llun 8 Mehefin ymlaen, ni fydd y system platiau rhifau ceir odrif ac eilrif yn cael ei defnyddio mwyach ar safleoedd Tythegston, Maesteg a Brynmenyn.
Wedi’i chyflwyno i helpu gyda lleihau amseroedd aros a thagfeydd traffig, mae’r system yn dod i ben gan fod y galw mawr cychwynnol a welwyd ar ôl ailagor y safleoedd wedi lleihau yn awr.
Hefyd bydd y trefniadau rheoli traffig dros dro sy’n effeithio ar fynediad i Tythegston yn dod i ben a bydd gyrwyr yn gallu cyrraedd y safle o’r A48 a’r A4106 Heol Pen-y-bont ar Ogwr.
I warchod staff ac ymwelwyr a chyfyngu ar gyswllt posib â’r coronafeirws, bydd y mynediad i’r safle’n gyfyngedig i geir yn unig o hyd – ni fydd faniau, trelars na cherbydau caban criw 4x4 yn cael eu caniatáu hyd nes ceir rhybudd pellach, ac mae’r cynllun trwydded tipio’n parhau wedi’i ohirio.
Gan mai dim ond ychydig o geir fydd yn cael eu caniatáu ar y safleoedd ar unrhyw un adeg, dylai gyrwyr ddisgwyl oedi.
RHAID didol pob eitem a deunydd cyn mynd i mewn i ganolfan ailgylchu a dim ond un person fydd yn cael dod allan o’r car i gael gwared ar y gwastraff.
Ni fydd staff yn gallu helpu i ddadlwytho na symud eitemau o geir oherwydd y gofynion cadw pellter cymdeithasol, felly dim ond gwastraff y gall un person ei gludo’n ddiogel ddylai pobl ddod gyda nhw.
Er ein bod ni’n llacio’r system fynediad nawr bod y galw mawr wedi mynd heibio, rydyn ni’n dal i annog pobl i wneud tripiau hanfodol yn unig. Nid yw’r safleoedd ar agor ar gyfer busnes fel arfer ac mae cyfyngiadau’n berthnasol o hyd tra mae’r pandemig yn parhau.
Mae ciwiau hir yn parhau’n debygol, felly plîs ystyriwch a oes modd storio’r gwastraff yn ddiogel gartref nes bod y cyfyngiadau symud wedi cael eu codi, neu gael gwared arno gan ddefnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff mawr. Plîs peidiwch â mynd â gwastraff i safle y gallech ei ailgylchu fel arall fel rhan o’r casgliad palmant wythnosol. Nid oes unrhyw gyfyngiad ar faint o ailgylchu y gallwch ei roi allan a gallwch bob amser archebu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol ar wefan y cyngor.
Mae’r cyngor yn parhau i weithio ochr yn ochr â’i bartner gwastraff Kier i sicrhau bod casgliadau ailgylchu wythnosol a chasgliadau gwastraff bob pythefnos o gartrefi’n gallu parhau heb darfu arnynt. Fe hoffwn i ddiolch i’r staff a’r trigolion am gydweithio a helpu Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal gwastraff gwasanaeth ac ailgylchu cadarn yn ystod argyfwng Covid-19.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen ni ar y we am ganolfannau ailgylchu cymunedol.