Y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 21 Rhagfyr 2018
Mae’r amseroedd agor dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd wedi'u cadarnhau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Eleni, bydd swyddfeydd y cyngor ar gau ar Noswyl Nadolig a Nos Galan, yn ogystal â Dydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan, a bydd yr oriau agor yn dychwelyd i'r rhai arferol ddydd Mercher, 2 Ionawr 2019:
- Noswyl Nadolig - Ar gau
- Dydd Nadolig - Ar gau
- Dydd San Steffan - Ar gau
- Dydd Iau 27 Rhagfyr - Ar agor 8.30am – 4pm
- Dydd Gwener 28 Rhagfyr - Ar agor 8.30am – 4pm
- Nos Galan - Ar gau
- Dydd Calan - Ar gau
- Dydd Mercher 2 Ionawr - Ar agor 8.30am – 5pm
Bydd gwasanaeth argyfwng yn ystod y diwrnod ar gael gan y Gwasanaethau Cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig yn ogystal â gwasanaeth y tu allan i oriau, tra bydd partneriaid ailgylchu a gwastraff y cyngor, Kier, ar gael i dderbyn galwadau hyd at 3.30pm ar Noswyl Nadolig a Nos Galan.
Gallwch gael gafael ar y rhain drwy ffonio prif rif ffôn y cyngor, 01656 643643, a dewis yr opsiynau perthnasol.
Ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl Dydd Nadolig, bydd preswylwyr yn gallu rhoi un bag gwastraff ychwanegol allan.
Er y bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu ar Noswyl Nadolig, ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan, a bydd popeth yn cael ei gasglu ddau ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos honno.
Bydd casgliadau ar Nos Galan, ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Calan, a bydd popeth yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos honno cyn dychwelyd i'r trefniadau arferol ar ddydd Llun 7 Ionawr.
Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'r holl breswylwyr.