Y gymuned yn croesawu cae chwaraeon bob tywydd newydd
Poster information
Posted on: Dydd Iau 16 Medi 2021
Mae aelodau grwpiau cymunedol ym Mryncethin, disgyblion Ysgol Bryn Castell a The Bridge Alternative Provision wedi bod yn mwynhau cyfleusterau awyr agored gwell a newydd.
Mae’r safle wedi cael ei ddefnyddio gan yr ysgol, PRU a’r gymuned ers rhai blynyddoedd, ond roedd oed a chyflwr y cae pob tywydd yn golygu nad oedd modd ei ddefnyddio rhagor.
Ond ar ôl buddsoddiad gwerth £246,000 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth gan raglen buddsoddi cyfalaf digonolrwydd cyfleoedd chwarae Llywodraeth Cymru, mae Campws Bryncethin bellach yn gartref i gae hyfforddi 3G â llifoleuadau o’r radd flaenaf.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys gwaith adnewyddu ffensys, uwchraddio llifoleuadau i LEDs sy’n defnyddio llai o ynni, a physt gôl newydd. Mae’r awdurdod lleol hefyd wedi sicrhau bod cyfleusterau eraill, megis y neuadd chwaraeon a’r stiwdio weithgareddau, ar gael at ddefnydd y gymuned.
Dywedodd Helen Ridout, pennaeth Ysgol Bryn Castell: “Mae gweithgaredd corfforol a chwaraeon yn bwysig iawn i bobl ifanc, ac yn eu galluogi nhw i ddatblygu ffyrdd iach o fyw a hunan-reoli eu hymddygiad â’u hemosiynau yn ogystal â bod yn actif.
“Mae’r rhain yn gyfleusterau o ansawdd uchel, fydd yn parhau i ysgogi ein disgyblion a’u cefnogi nhw i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol yn ystod y flwyddyn.”
Mae’r safle’n cefnogi amrywiaeth o sefydliadau, yn cynnwys Clwb Rygbi Bryncethin, Valley Ravens, Garw SBCG, Bryncethin Tang Soo Do, Bryncethin Shotokan, Jujitsu Pen-y-bont ar Ogwr, Ras Sglefrolio Pen-y-bont ar Ogwr, Spanish Soccer, Clwb Criced Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Tondu United, Bridgend Bolts, Cynghrair Pêl-rwyd Ieuenctid ac Uwch Pen-bont ar Ogwr, ac amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys rygbi, pêl-droed, ffitrwydd, pêl-rwyd, crefft ymladd a hyd yn oed rasys sglefrolio.
Dywedodd Joe Powton, Clwb Pêl-droed Tondu: “Mae’n wych bod y cyfleuster hwn ar gael i’r gymuned leol.
“Yn sgil yr opsiwn pob tywydd, gellir cynnal mwy o chwaraeon mewn tywydd garw, sy’n rhywbeth sydd ei wir angen o fewn y sir.
“Fel clwb, rydym wedi croesawu mwy na 300 o blant sydd wedi mwynhau defnyddio’r cyfleuster dros yr haf, ac mae wedi rhoi rhywbeth i ni anelu ato fel clwb, wrth i ni geisio dod o hyd i’n safle ein hunain.”
Dywedodd Adam Carpenter, Spanish Soccer Schools: “Mae’r cae 3G newydd ym Mryncethin yn rhagorol.
“Bydd yn ychwanegu cymaint i’r gymuned a’r ardaloedd cyfagos, a heb os, bydd pobl yn archebu i gael ei ddefnyddio ar unwaith. Cawsom ddefnyddio’r cae 3G yn ddiweddar ar gyfer ein gwersylloedd haf, ac roedd y plant a’r hyfforddwyr wrth eu bodd yn cael ei ddefnyddio.
Mae’n braf iawn gweld bod Ysgol Bryn Castell ac amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon yn defnyddio’r cae pob tywydd newydd, ac yn ei fwynhau.
Bydd yn gyfleuster gwych all y gymuned gyfan ei ddefnyddio i fod yn actif ac yn iach.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol