Y gwasanaeth Shopmobility yn cau dros dro
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020
Bydd y gwasanaeth Shopmobility yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cau dros dro.
Gyda nifer cynyddol o achosion Covid-19 yn yr ardal, ynghyd â mesurau llymach ar waith ledled Cymru, bydd y gwasanaeth i bobl â phroblemau symud, a gaiff ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cau o ddydd Mawrth, 22 Rhagfyr, hyd nes y clywir yn wahanol.
Yn dilyn cynnydd sydyn yn yr achosion o’r coronafeirws yn y fwrdeistref sirol, ac ar ôl cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar ledled Cymru, penderfynwyd cau’r gwasanaeth Shopmobility dros dro.
Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i’r defnyddwyr yn y flwyddyn newydd ynglŷn â phryd y bydd y gwasanaeth yn ailagor. Diolch i’r rhai sydd wedi defnyddio Shopmobility yn y misoedd diwethaf – dymunwn Nadolig diogel a hapus i chi.
Richard Young, yr aelod cabinet dros gymunedau