Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y ffefrynnau ar y fwydlen yn ystod Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol

Gall disgyblion ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwyta rhai o'u hoff brydau ysgol yr wythnos hon gan fod bwydlenni unigryw wedi cael eu creu i nodi ‘Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol’ (12–16 Tachwedd).

Ymysg y bwydydd a fydd yn cael eu gweini bydd selsig a stwnsh, cychod burrito, cig eidion wedi'i rostio a phwdin efrog, caserol cyw iâr a chennin, cyrri, a phitsa. Byddant hefyd yn mwynhau 'Diwrnod Brecwast Mawr' a 'Dydd Gwener 'Sgod a Sglods'.

Mae dros miliwn a hanner o brydau maethlon yn cael eu coginio yn ein hysgolion bob blwyddyn ac rwy'n siŵr y bydd y disgyblion yn gyffrous iawn i weld amrywiaeth eang o'r prydau mwyaf poblogaidd yn glanio ar eu platiau yn ystod Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol.

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i gynllunio ein prydau bwyd ysgol i sicrhau eu bod yn cael y cydbwysedd cywir o faeth i gyflenwi plant â'r holl egni sydd ei angen arnynt ar gyfer diwrnod prysur yn yr ysgol.

Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio

Cyn Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol, treuliodd pen-cogydd Ysgol Gynradd Tremaen, Leanne Rees Sheppard, ddiwrnod yn y gegin ym mwyty James Sommerin ym Mhenarth. Leanne yw Pen-cogydd Ysgol y Flwyddyn Cymru ar hyn o bryd a threfnwyd ei hymweliad â'r bwyty seren Michelin gan y Gymdeithas Arweiniol dros Arlwyo mewn Addysg (LACA) ac Elygra.

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: “Yn ogystal ag annog plant i fwynhau'r prydau iachus sy'n cael eu coginio mewn ysgolion, mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol hefyd yn gyfle i ddathlu ein holl staff hyfryd a thalentog sy'n paratoi'r prydau hynny.”

Gellir talu am brydau ysgol ar gyfer 50 o ysgolion lleol ar-lein drwy wefan y cyngor, gan olygu nad yw erioed wedi bod mor hawdd i dalu am brydau bwyd plant. Gall rhieni, gwarchodwyr a disgyblion ddod o hyd i'r holl fwydlenni ysgol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd ar-lein.

Chwilio A i Y