Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y diweddaraf o ran trefniadau'r cyfyngiadau symud

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o ran trefniadau'r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig coronafeirws COVID-19 wedi'u diweddaru.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae disgwyl i'r cyfyngiadau symud barhau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda nifer o fân newidiadau.

Er mai’r cyngor cyffredinol o hyd yw y dylai trigolion aros gartref, osgoi pob cyswllt diangen, gwneud ymarfer corff yn lleol a lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws, o 1 Mehefin bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn gallu cwrdd â'i gilydd yn yr awyr agored yn e.e. eu gerddi preifat neu barciau.

Caniateir hyn cyhyd â’u bod yn aros dau fetr ar wahân, yn aros o fewn pum milltir i'w cartref, yn dilyn gweithdrefnau hylendid dwylo llym ac yn osgoi cwrdd y tu mewn i gartref rhywun.

Gan bwysleisio pwysigrwydd cyfyngu ar y posibilrwydd o ddod i gysylltiad â'r feirws, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: “Nid yw hyn yn wahoddiad i fynd mewn i ardd, yfed ambell gan o gwrw a dechrau cymysgu mewn modd a allai, o bosib, eich niweidio chi neu bobl eraill.”

Mae'r cyngor newydd yn dilyn diweddariadau blaenorol sydd wedi ein galluogi i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd ar yr amod bod pobl yn aros yn lleol, a chynnydd i'r ddirwy uchaf ar gyfer torri rheolau cyfyngiadau symud coronafeirws yng Nghymru dro ar ôl tro o £120 i £1,920.

Diogelwch a llesiant parhaus ein trigolion yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru yn llwyr ynghylch y dull synhwyrol, graddol o godi'r gweithdrefnau cyfyngiadau symud, gan gynnwys y penderfyniad i beidio ag ailagor ysgolion ym mis Mehefin.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach wrth i'r sefyllfa ddatblygu ymhellach, a hoffwn ddiolch i'r holl drigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn y cyfamser.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Chwilio A i Y