Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y diweddaraf ar y cyfyngiadau symud

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar drefniadau'r cyfyngiadau symud yn ystod pandemig y coronafeirws Covid-19 wedi'u diweddaru.

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, gwnaed llawer o newidiadau i'r cyfyngiadau symud ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

O ddydd Llun 22 Mehefin, bydd hawl gan siopau a busnesau nad ydynt yn hanfodol ailagor cyhyd ag y gallant ddilyn yr holl fesurau rhesymol i gydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol a pharhau i amddiffyn staff a chwsmeriaid rhag dod i gysylltiad posibl â'r coronafeirws.

I gefnogi hyn, mae'r cyngor wedi bod yn darparu hyfforddiant ar-lein am ddim i fasnachwyr lleol ynghyd ag offer fel gardiau rhag tisian, ac mae wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin ar wefan y cyngor. Caiff y rhain eu datblygu ymhellach i roi ffynhonnell wybodaeth ddiweddar i fusnesau a'r cyhoedd.

Bydd cyfleusterau gofal plant yn cael ailagor yn raddol hefyd, gyda phlant yn mynychu dim ond un darparwr lle bo'n bosibl, a bydd cyrtiau chwaraeon awyr agored hefyd yn dechrau ailagor ar yr amod nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau cyswllt neu dîm. Bydd athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol, fel y sawl sy'n gobeithio cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, yn gallu dychwelyd i hyfforddi.

Gellir gwneud apwyntiadau i edrych ar dai mewn eiddo gwag, a gellir symud tŷ hefyd lle y bydd gwerthiant wedi'i gytuno ond heb ei gwblhau eto, a gellir gweddïo’n breifat mewn mannau addoli ar yr amod nad yw pobl yn ymgynnull yno ac y cedwir pellter cymdeithasol ar bob adeg.

Gydag adolygiad pellach o'r gofyniad i aros yn lleol wedi'i drefnu ymhen pythefnos, cynghorir atyniadau awyr agor a busnesau twristiaeth i ddechrau gwneud paratoadau i ailagor. . Bydd y penderfyniadau terfynol yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf sydd ar gael ar yr adeg honno.

Caniateir i bobl deithio y tu allan i'r ardal leol ar sail dosturiol, e.e. i gefnogi aelod o'r teulu, ond mae'r cyngor cyffredinol – i geisio aros gartref, osgoi pob cyswllt diangen, gwneud ymarfer corff yn lleol, lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws, a dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid dwylo llym – yn parhau ar waith.

Gan gyhoeddi'r newidiadau diweddaraf, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Rydym bellach yn cymryd camau cadarn i geisio ailddechrau'r hyn sy'n gyfystyr â normal newydd wrth fyw ochr yn ochr â'r coronafeirws.

“Gadewch i mi gloi drwy ddweud eto nad yw'r argyfwng iechyd y cyhoedd hwn ar ben. Drwy ein holl ymdrechion rydym wedi llwyddo i reoli tân y coronafeirws, ond nid yw'r tân hwnnw wedi diffodd yn llwyr.

"Mae angen i ni i gyd barhau i chwarae ein rhan ac amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau. Parhewch i aros yn lleol er mwyn cadw Cymru'n ddiogel."

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David: “Diogelwch a llesiant ein preswylwyr yw ein prif flaenoriaeth bob amser yn ystod y pandemig.

“Mae'r cyngor newydd gan Lywodraeth Cymru yn cynrychioli'r cam diweddaraf sy'n rhan o ddull synhwyrol, graddol o godi'r cyfyngiadau symud, a gobeithio y bydd busnesau lleol yn manteisio ar y cymorth am ddim y mae'r cyngor yn ei ddarparu er mwyn iddynt allu bod yn barod i ailagor.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach wrth i'r sefyllfa ddatblygu, a byddwn yn ceisio gweithio ochr yn ochr â busnesau lleol a phreswylwyr i sicrhau bod y mesurau hyn yn gallu parhau i gynnal y rheolau cadw pellter cymdeithasol ac yn gallu addasu a pharhau yn addas i'r diben wrth i'r pandemig barhau. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i'r holl breswylwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus."

Chwilio A i Y