Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn ymateb i sylwadau ar uwchgynllun datblygiad

Mae'r ymgynghoriad ar uwchgynllun datblygiad newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi denu amrywiaeth eang o sylwadau gwahanol ar gyfryngau cymdeithasol - ac nid yw pob un ohonynt yn gywir.

Gweler isod y Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau, yn ymateb i rai o'r cwestiynau, honiadau a chamdybiaethau.

Beth yw'r Cynllun Datblygu Lleol, a pham mae mor bwysig?

"Mae'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, sydd hefyd yn dwyn yr enw LDP, yn cynnwys yr holl bolisïau y bydd y cyngor yn eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

"Mae'n defnyddio data cyfoes i bennu beth fydd yr anghenion lleol yn y dyfodol er mwyn sefydlu sut fydd y tir yn cael ei ddefnyddio, a pha rannau o'r fwrdeistref sirol fydd yn cael eu cynnal fel mannau agored neu’n cael eu dynodi at ddibenion preswyl, cyflogaeth, manwerthu, gwastraff, datblygu mwynau, y gymuned a thwristiaeth."

Nid yw'r cyngor eisiau i bobl ymateb i'r ymgynghoriad LDP go iawn.

"Petai hyd yn oed tamaid o wirionedd yn hyn, nid ydym yn cuddio hynny'n dda iawn - mae'r adroddiad drafft ar yr ymateb i'r ymgynghoriad eisoes yn 800 o dudalennau! Y gwir yw ein bod eisiau ystyried safbwyntiau lleol yn ogystal â gweithio o fewn deddfwriaethau a chanllawiau perthnasol, a chynhyrchu cynllun cytbwys sy'n adlewyrchu hyn ac sy'n addas at y diben.

"Rydym yn anelu at ddatblygu rhwydwaith o gymunedau diogel, iachus, cynhwysol sy'n gallu dangos swyddogaethau cyflogaeth, gwasanaethau a thrafnidiaeth cryf, ac sy'n cysylltu â'r rhanbarth ehangach i ysgogi twf economaidd cynaliadwy."

Mae'r cyngor yn adeiladu tai newydd er mwyn cynhyrchu mwy o'r dreth gyngor.

"Mae hon yn gamdybiaeth boblogaidd arall - mae unrhyw un sy'n meddwl bod adeiladu tai newydd yn cynhyrchu refeniw ychwanegol i'r cyngor ar ffurf y dreth gyngor yn anghywir, gan fod Llywodraeth Cymru yn ei thynnu o'r grant anheddiad blynyddol y mae pob awdurdod lleol yn ei gael."

Ai bwriad yr LDP yw gwneud lle i gynnydd cyflym disgwyliedig yn y boblogaeth yng Nghaerdydd?

"Dim o gwbl. Mae'n cael ei baratoi i sicrhau bod datblygiad lleol yn digwydd yn y llefydd cywir, gyda'r lefel gywir o seilwaith mewn lle, ac er mwyn cynnal y cydbwysedd cywir o ran beth fydd anghenion tebygol yr ardal yn y dyfodol.

"Mae'r LDP yn rhannol angenrheidiol er mwyn osgoi creu gwactod polisi y byddai'r diwydiant datblygu yn gallu cymryd mantais ohono.

“Mewn sefyllfa o'r fath, byddai pwysau sylweddol gan ddatblygwyr i ryddhau safleoedd tir glas mewn lleoliadau anghynaladwy. Byddai'r cyngor yn ymatal rhag gwneud hynny, ac mae'n anochel y byddai hynny'n arwain at apeliadau cynllunio drud a hirfaith, a gallem weld datblygiadau yn cael eu cymeradwyo yn erbyn ein dymuniadau a fyddai'n tanseilio ein strategaeth a'n gweledigaeth hirdymor."

A ydych yn adeiladu tai newydd oherwydd nad yw Caerdydd eu heisiau?

"Dichon mai hwn yw'r gamdybiaeth fwyaf yr wyf wedi'i gweld yn cael ei hyrwyddo'n weithredol ar gyfryngau cymdeithasol, ond yn yr un modd â'r honiad anghywir bod treth gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei harallgyfeirio a'i gwario ar brosiectau yn ninas Caerdydd, mae'n anghywir.

“Mae'r LDP yn defnyddio data poblogaeth leol a mwy i sefydlu faint o dai ychwanegol y bydd eu hangen yn yr ardal, felly na, nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â beth bynnag yw anghenion Caerdydd - mae'n canolbwyntio'n gadarn ar Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr."

Pam ydych chi'n cynnig caniatáu i adeiladu cymaint o dai newydd?

"Mae gennym boblogaeth sy'n tyfu, mae pobl yn byw'n hirach ac mae angen eu darparu â thai addas. Dylai unrhyw un sy'n credu fel arall ofyn i'w hunain, lle ydych chi am i'ch plant eich hunain fyw ar ôl iddynt dyfu a meddwl am ddechrau teulu eu hunain?

“Y gwir yw bod LDPs yn caniatáu i dai newydd gael eu hadeiladu oherwydd y byddant yn angenrheidiol. Dyna pam mae tai tebyg yn cael eu cynllunio yn Rhondda Cynon Taf, y Fro, Castell-nedd Port Talbot ac ati.

"Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ein nod yw sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd, yn hytrach nag ar ardaloedd tir glas, a hyd yn oed os bydd pob datblygiad newydd sydd wedi'i gynnig yn mynd yn ei flaen, byddai'r niferoedd rhagweladwy yn cyrraedd oddeutu 200 o dai newydd bob blwyddyn am y 15 mlynedd nesaf."

Dylai'r cyngor sefydlu swyddi newydd, nid tai newydd.

"Mae swyddi newydd a thai newydd yn mynd law yn llaw yn y LDP - peidiwch â honni bod y cwbl yn ymwneud â thai, oherwydd mae hefyd yn nodi manylion ynghylch lle all datblygiad masnachol a diwydiannol ddigwydd yn y dyfodol.

"Mae nifer o drefi rhanbarthol yn gweld gostyngiad yn y boblogaeth oherwydd bod pobl yn symud i lefydd lle mae swyddi a thai. Rydym yn lwcus ein bod wedi ein lleoli'n ddaearyddol rhwng Abertawe a Chaerdydd, ond mae'n rhaid i chi gael y gwasanaethau a'r tai i wneud lle i bobl ifanc a'u teuluoedd.

“Mae denu a datblygu gweithlu medrus yn y boblogaeth gynyddol yn ffactor pwysig o ran annog cyflogwyr presennol a newydd i fuddsoddi yn yr ardal, ac mae'r LDP yn ceisio â chreu oddeutu 5,000 o swyddi newydd yn ystod ei gyfnod.

"Y nod yw cyflawni cydbwysedd gwell rhwng lleoliad cyflogaeth a thai, i gefnogi cyfleoedd gwaith newydd, a chynnig lefel ac amrywiaeth realistig o dir y gellir ei ddefnyddio at ddibenion cyflogaeth.

Ble mae'r seilwaith i gefnogi tai newydd?

"Un o'r rhesymau pam mae'r LDP yn ceisio cyflawni safleoedd mawr yw oherwydd bod gwneud hynny yn golygu y gellir cyflawni'r seilwaith ategol newydd ar yr un pryd.

“Er enghraifft, byddai safleoedd yng nghyffiniau tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys 20 y cant o dai fforddiadwy, ysgolion cynradd newydd a chyfleusterau addysg ehangach, cyfleusterau hamdden newydd, man agored cyhoeddus, cyfleusterau cymunedol newydd, defnyddiau masnachol a mwy.

"Gan nad ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain, rydym hefyd wedi cwrdd â phartneriaid megis Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn iddynt allu cynllunio ymlaen llaw yn unol â datblygiadau posibl yn y dyfodol."

A fydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal gymudo i Gaerdydd a'r M4?

“Er bod niferoedd sylweddol o breswylwyr eisoes yn teithio i Abertawe a Chaerdydd ar gyfer gwaith, un o brif nodau'r cynllun yw lleihau'r angen i deithio y tu allan i'r ardal i geisio gwaith. Caiff hyn ei egluro'n llawn fel rhan o grynodeb cefndir cyflogaeth y LDP.”

A all ffyrdd lleol ymdopi â mwy o draffig?

“Y mater allweddol yma yw bod rhaid i unrhyw ddatblygiad fod yn gynaliadwy. Mae asesiadau trafnidiaeth cynhwysfawr wedi'u paratoi i ystyried yr effaith ar y rhwydwaith priffyrdd lleol, ac mae asesiad trafnidiaeth strategol yn gwerthuso a oes angen gwneud gwelliannau i'r seilwaith.

"Yn syml, ni fyddai datblygiad yn cael caniatâd oni bai y gallai arddangos y gallai gyflawni gwelliannau angenrheidiol hefyd.

"Dylid nodi hefyd bod yr LDP yn adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol sy'n gofyn i gynghorau ddatblygu rhwydweithiau teithio llesol effeithiol, gan fod y rhain yn annog mwy o bobl i ddod o hyd i opsiynau eraill yn hytrach na defnyddio car wrth geisio cyfleusterau lleol."

Beth am effaith datblygiadau mawr ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth?

"Mae'r LDP yn sicrhau bod mesurau ar waith i ddiogelu pryderon bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a rhaid i ddatblygwyr gytuno i amodau priodol cyn bod unrhyw waith yn dechrau.

"Yn achos safleoedd megis Island Farm a Merthyr Mawr, byddai hyn yn cynnwys sefydlu rhywbeth sydd wedi'i alw'n 'ysgyfaint gwyrdd' sy'n gysylltiedig â Chaeau Newbridge.

"Byddai cyfres o glustogau cydgysylltiol yn diogelu cynefinoedd, a byddai'r LDP yn sicrhau bod tirlunio gwyrdd, mesurau lleihau traffig, gwelliannau i briffyrdd, trefniadau diogelu treftadaeth, mwy o gysylltiadau cerdded a beicio, trafnidiaeth gyhoeddus well, draeniau effeithiol a mwy yn eu lle.

“Cyn y gellid gwneud penderfyniad ar unrhyw gais cynllunio, byddai angen i ddatblygwr gyflwyno cynlluniau rheolaeth ecolegol yn dangos sut fyddai'n lliniaru, atgyfnerthu a chynnal cynefinoedd penodol, gan gynnwys ar gyfer rhywogaethau a warchodir megis ystlumod a phathewod.”

Sut all bobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

"Gallwch weld y cynllun a dweud eich dweud drwy fynd i wefan y cyngor, ac mae fformatau gwahanol ar gael ar gais.

"Cofiwch fod copïau o'r LDP a'i ddogfennau ategol ar gael i'w gweld mewn llyfrgelloedd lleol ar draws y fwrdeistref sirol.

"Y dyddiad cau terfynol ar gyfer cymryd rhan yw dydd Mawrth 27 Gorffennaf, felly mae digonedd o amser i chi gymryd rhan a dweud eich dweud."

Chwilio A i Y