Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn ymateb i alwadau iddo wario ei gronfeydd a rhewi'r dreth gyngor

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddaraf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gosod ei gyllideb ar gyfer 2021-22, mae'r awdurdod wedi ymateb i alwadau ar y cyfryngau cymdeithasol iddo wario ei gronfeydd er mwyn rhewi'r dreth gyngor.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams: "Mae galwadau i wario'r cronfeydd yn eithaf cyffredin, ond maent yn cael eu gwneud bron bob amser mewn sefyllfaoedd lle mae pobl yn tybio beth mae 'cronfeydd' yn ei olygu go iawn, gan amlaf am nad ydynt yn gyfarwydd gyda'r ffordd mae cyllid llywodraeth leol yn gweithio.

"Ni ddylid ystyried cronfeydd cyngor fel math o gronfa ariannol y gellir bwyta i mewn iddi mewn cyfnodau heriol. Mae hyn yn groes i'r hyn sy'n ffurfio cronfeydd awdurdod lleol go iawn, ond eto, dyma'r gamdybiaeth fwyaf gyffredin.

"Efallai ei fod yn ymddangos fod cronfeydd yn cynnwys arbedion neu arian sydd wedi cael eu rhoi i un ochr ar gyfer cyfnodau heriol, ond mae'r rhan fwyaf o gronfeydd cynghorau yn cynnwys arian sydd eisoes wedi cael ei benodi ar gyfer dibenion a phrosiectau penodol - er enghraifft, bod y cyngor yn rhoi cyfraniad i'r cyllid sydd ei angen i adeiladu ysgolion newydd dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r arian wedi cael ei gadw at y diben hwnnw'n benodol.

"Dim ond cyfran fechan o gronfeydd cyngor sy'n cael eu cadw ar gyfer argyfyngau. Mae hynny'n golygu sefyllfaoedd eithriadol, megis gwasanaethau ar fin chwalu yn sgil argyfwng bancio cenedlaethol sy'n golygu nad yw'r awdurdod yn gallu talu ei gyflenwyr, neu ddigwyddiad fel llifogydd difrifol sydd wedi cychwyn ymateb brys ar raddfa gyfan, sy'n gofyn am lif arian brys.

"Mae gan ein cronfeydd bwrpas go iawn. Maent yn rhan bwysig o'r gyllideb gyfan, ac mae'n rhaid eu cadw ar lefel sy'n bodloni ystod o ofynion cyfreithiol.

"Mae Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yn cefnogi awdurdodau lleol gyda materion ariannol, ac mae archwilwyr allanol annibynnol yn sicrhau bod ein cronfeydd yn cael eu cynnal ar lefel sy'n briodol ac yn addas at ddiben. Rydym hefyd yn cael arolygon rheolaidd sy'n gwirio eu bod yn rhesymol.

"Byddai'r archwilwyr yn dweud yn syth petai'r cyngor cadw arian a ellid ei fuddsoddi mewn gwasanaethau, ond nid dyma'r achos, ac nid yw hynny erioed wedi digwydd.

"Bydd y cynnydd o 3.9 y cant yn y dreth gyngor yn codi £3.1m. Cyfraniad bach iawn fydd yr arian hwn at yr £103.5m fydd yn cael ei wario ar ysgolion yn unig y flwyddyn nesaf, ac ni fydd yn talu am yr £74m y byddwn yn ei wario er mwyn darparu gwasanaethau cymdeithasol allweddol i bobl hŷn, pobl anabl, a phlant mewn gofal.

"Nid dyma'r unig gyngor i wynebu trafferth gyffelyb. O'r 22 cyngor yng Nghymru, nid oes unrhyw un yn gallu bodloni'r gofyniad cyfreithiol o osod cyllideb gytbwys heb gynyddu'r dreth gyngor ar gyfer 2021-22.

"Yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Llywodraeth Cymru'n ariannu 71 y cant o'n cyllideb, ac mae'r 29 y cant sy'n weddill yn cael ei ariannu drwy'r dreth gyngor.

"Yr unig ffordd y gallwn ddarparu cyllideb gytbwys yw cynyddu'r dreth gyngor 3.9 y cant. Rwy'n gwybod ei fod yn ymddangos fel cynnydd sylweddol, ond byddwn angen gwneud toriadau o £1.7m o fewn y gyllideb er mwyn i ni allu bodloni pwysau cyllidebol fydd yn costio oddeutu £14m ychwanegol.

"Ar ôl gwario £103.5m ar ysgolion a £74m ar wasanaethau cymdeithasol, byddwn hefyd angen gwario £23.6m ar wasanaethau megis cymorth i deuluoedd, trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol, plant gydag anghenion ychwanegol, £28.1m ar wasanaethau cymunedol megis priffyrdd, casgliadau ailgylchu a gwastraff, £21.3m ar wasanaethau ar gyfer pobl ddi-gartref, iechyd amgylcheddol, safonau masnach, a llawer mwy.

"Efallai nad yw hyn yn boblogaidd, ac yn hawdd ei feirniadu, ond mae'r dreth gyngor yn dal yn rhan hanfodol o ddarparu'r gwasanaethau allweddol mae pob un ohonom yn elwa ohonynt, ac er bod sawl un yn credu y gall cronfeydd y cyngor ddatrys popeth, nid yw hynny'n wir."

Chwilio A i Y