Y cyngor yn tawelu meddyliau rhieni yn dilyn twyll am COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 14 Awst 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod i wybod am bost ffug ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch 'Deddf COVID' ffug sy'n honni y gall plant ysgol cael eu tynni oddi wrth eu teuluoedd er mwyn iddynt dderbyn prawf am y coronafeirws.
Gall rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid gael eu sicrhau bod yr honiadau yn y post yn rhai celwyddog, ac nid oes yr un darn o ddeddfwriaeth wedi cael ei basio i brofi neu gadw plant ysgol os byddant yn dangos symptomau o COVID-19.
Mae'r post yn manylu ar sgwrs ffug rhwng pennaeth ysgol a rhiant ac yn datgan bod y 'Ddeddf COVID' (nad yw'n bod) yn rhoi'r grym i'r ysgol fynd â phlant ymaith a’u profi a’u cadw heb ganiatâd y rhieni neu'r gwarcheidwad.
Er bod yr honiad hwn yn gwbl ffug, mae niferoedd mawr o bobl eisoes wedi rhannu'r post ffug.
Gyda'r holl waith da sy'n digwydd i atal lledaeniad y coronafeirws, mae pranciau gwirion a gwael fel hyn ond yn lledaenu ofn a gwybodaeth anghywir.
Mae hyn ond yn profi mai nad y gwir yw popeth a welwch neu darllenwch yn y cyfryngau cymdeithasol, felly arhoswch yn wyliadwrus a meddwl yn gall cyn rhannu gwybodaeth.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y frwydr leol yn erbyn y coronafeirws trwy ymweld â thudalennau Facebook a Twitter y cyngor.
Arweinydd y cyngor, Huw David