Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn targedu cartrefi nad ydynt yn ailgylchu fel y dylen

Ar ôl cyhoeddi ei ffigurau ailgylchu gorau erioed, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cryfhau ei ymdrechion i fod yn ecogyfeillgar hyd yn oed yn fwy yn ystod y gwanwyn drwy weithio’n agos gyda chartrefi nad ydynt yn ailgylchu’n iawn o hyd.

Cofnododd y cyngor gyfradd ailgylchu o 74 y cant yn ddiweddar o ganlyniad i ymdrechion trigolion lleol sy’n wyrddach nag erioed erbyn hyn ers cyflwyno’r trefniadau newydd i gasglu gwastraff yr haf diwethaf.

Er hynny, mae’r cyngor wedi nodi nad yw rhai cartrefi yn chwarae eu rhan, ac yn hytrach maent yn gadael pentyrrau o fagiau bin y tu allan i’w cartrefi.

O’r wythnos hon ymlaen, bydd llythyrau yn cael eu hanfon i’r cartrefi hynny, i’w hatgoffa am y trefniadau newydd, sy’n cynnwys uchafswm o ddau fag bin y pythefnos ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi.

Bydd contractwyr ailgylchu’r cyngor, sef Kier, hefyd yn dechrau rhoi sticeri ar unrhyw fagiau bin ychwanegol y mae cartrefi yn eu rhoi allan sy’n fwy na’u terfyn gwastraff pythefnosol.

Bydd angen i unrhyw un yn y sefyllfa hon dynnu ei fag â sticer oddi ar ymyl y ffordd, edrych yn y bagiau i weld a oes unrhyw ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu ynddynt, a naill ai rhoi eu gwastraff yn ôl allan ar gyfer y casgliad nesaf neu fynd ag ef i’w canolfan ailgylchu gymunedol agosaf.

Y cam olaf oll i bobl nad ydynt yn ailgylchu’n rheolaidd fydd codi dirwy arnynt o hyd at £100.

Cyrhaeddodd ein cyfradd ailgylchu rhwng mis Gorffennaf a mis Medi ganran ragorol o 74 y cant, a oedd yn gynnydd enfawr ar y 57 y cant a gofnodwyd yn yr un cyfnod yn 2016. Y trefniadau casglu newydd a gyflwynwyd ym mis Mehefin yn unig sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.

Dirprwy Arweinydd Hywel Williams.

Ychwanegodd y Cynghorydd Williams: "Cyn i’n cynllun newydd gael ei gyflwyno, bu llawer o bryder am y terfynau gwastraff, wrth gwrs, a hoffwn i ddiolch i’r miloedd o drigolion sydd wedi mabwysiadu’r cynllun newydd yn wirioneddol ac sy’n ystyried yn fwy nag erioed pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu.

“Mae’n amlwg er gwaethaf y cyfnod cychwynnol anodd, bod y casgliadau newydd wedi rhoi hwb sylweddol i ailgylchu, a’n bod ni ymhell ar ein ffordd i gyflawni’r hyn yr oeddem yn dymuno ei gyflawni.

“Mae pawb wedi cael amser i ddod i arfer â’r trefniadau newydd erbyn hyn, felly rydym ni’n bwriadu gyda’r cartrefi hynny nad ydynt yn ailgylchu cymaint ag y gallent i weld pa broblemau sydd ganddynt.

“Byddwn yn cyflwyno’r broses orfodi yn raddol i’r fwrdeistref sirol gyfan.”

“Byddech yn synnu ar ba mor hawdd yw hi leihau eich gwastraff bagiau bin wrth ystyried ei bod yn bosibl ailgylchu nifer helaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys cardfwrdd, cartonau diodydd a tetra pack, papurau newydd a chylchgronau, post sothach ac amlenni, poteli plastig a chynhwysion bwyd, byrddau ffoil, tuniau a chaniau bwyd, poteli a jariau gwydr, gwastraff bwyd a llawer mwy.

“Mae’n bosibl ailgylchu tecstilau, esgidiau, batris, ffonau symudol, sbectol ac eitemau trydanol bach, megis tostwyr, tegelli, haearnau smwddio a sychwyr gwallt hyd yn oed wrth ochr y ffordd.

“Mae ein bag porffor newydd ar gyfer Cynhyrchion Hylendid Amsugnol wedi bod yn boblogaidd hefyd, wrth i ryw 8,000 o gartrefi gofrestru am y gwasanaeth pythefnosol sy’n ei gwneud yn bosibl ailgylchu cewynnau a gwastraff Cynhyrchion Hylendid Amsugnol.

“Rwy’n deall ei bod yn cymryd amser ac ymdrech i ailgylchu, ond mae rhaglenni teledu megis Blue Planet II wedi amlygu unwaith eto pa mor bwysig yw ailgylchu drwy ddangos effaith ddinistriol pobl ledled y byd ar yr amgylchedd drwy beidio â gwaredu ar eu gwastraff yn gyfrifol.

“Mae’n bwysig i bawb wneud eu rhan, ni waeth pa mor fach y gallai ymddangos ar y pryd o’i chymharu â’r raddfa fawr.”

Hoffem atgoffa trigolion lleol y dylent ffonio 01656 643643 (+ dewis 2) neu anfon neges e-bost i recyclingandwaste@bridgend.gov.uk os oes angen iddynt ofyn am gynhwysyddion neu fagiau ailgylchu, i roi gwybod am gasgliadau a fethwyd neu os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynglŷn â’u casgliadau.

Chwilio A i Y