Y Cyngor yn taflu goleuni ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2021
Poster information
Posted on: Dydd Llun 25 Ionawr 2021
Trawsgrifiad fideo Diwrnod Cofio'r Holocost.
Bydd swyddfeydd dinesig Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu goleuo'n borffor yr wythnos hon i gydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost 2021.
Bydd yr adeilad yn cael ei oleuo i gydnabod y diwrnod ingol hwn ac i bwysleisio thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni: ‘Byddwch y goleuni yn y tywyllwch.’
Mae'r thema, sydd wedi'i datblygu gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, yn gofyn i ni gyd gydnabod nad yw'r cyfrifoldeb i addysgu ac atal hil-laddiad ar ysgwyddau goroeswyr yn rhannu eu profiadau yn unig. Mae eu profiadau yn wersi i ni gyd ac mae'n hanfodol ein bod yn gwrando arnynt a dod yn dystion iddynt.
Rydym wedi bod yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ers sawl blwyddyn nawr, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad. Yn anffodus eleni, ni allwn ymgynnull yn bersonol oherwydd y pandemig.
Wedi dweud hynny, rydym wedi gwneud cynlluniau i gydnabod y diwrnod yn rhithiol drwy oleuo adeilad ein prif swyddfeydd dinesig a rhannu ein fideo Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol a gwefan. Mae'n bwysig i ni gyd fyfyrio, cofio a dysgu o'r gorffennol a dyma pam ein bod ni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost bob blwyddyn.
Yn anffodus, nid rhywbeth mewn llyfrau hanes yw gwrthsemitiaeth, casineb a hil-laddiad, mae'n dal i ddigwydd ar draws y byd. Rydym yn annog pob un yn ein cymunedau i ymuno'n rhithiol, i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad, a gofyn i ni'n hunain beth allwn ni ei wneud, gyda'n gilydd, i fod yn oleuni yn y tywyllwch i genedlaethau heddiw ac yfory.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David
Mae'r cyngor wedi creu fideo ac yn hwnnw mae 'Saith Datganiad o Ymrwymiad' Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael eu hadrodd gan gynrychiolwyr o'r gymuned a chaiff cannwyll ei goleuo i gofio gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Kenneth Watts.
Mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost yn annog cydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost, y diwrnod rhyngwladol ar 27 Ionawr i gofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ynghyd â'r miliynau o bobl eraill a laddwyd dan law Erledigaeth y Natsïaid ac mewn hil-laddiadau mwy diweddar yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Ar 27 Ionawr cofiwn waredigaeth Auschwitz-Birkenau, gwersyll farwolaeth fwyaf y Natsïaid. I ddysgu mwy am Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost.
Bydd seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 y DU yn cael ei ffrydio ar-lein am 7pm ddydd Mercher 27 Ionawr 2021. Dyma fydd seremoni ddigidol gyntaf yr ymddiriedolaeth.
Mae gwahoddiad i bawb i gofrestru i fynychu'r seremoni. Ar ôl i chi gofrestru, cewch ddolen i ymuno â'r seremoni cyn y digwyddiad.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal o 7pm tan 8pm.
Gofynnwyd i aelwydydd ar draws y DU gynnau canhwyllau a'u gosod yn ddiogel yn eu ffenestri am 8pm i:
- gofio'r rheiny a gafodd eu llofruddio am bwy oeddynt
- gwrthwynebu rhagfarn a chasineb heddiw
#DiwrnodCofio'rHolocost #GolauYnYTywyllwch