Y cyngor yn rhybuddio busnesau nad ydynt yn rhai hanfodol i beidio ag anwybyddu canllawiau ar COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Mawrth 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi diolch i fusnesau lleol am gydymffurfio â chyngor cenedlaethol ar iechyd y cyhoedd a chau eu drysau i helpu i atal y coronafeirws COVID-19 rhag lledaenu.
Ond mae'r awdurdod hefyd yn rhybuddio y bydd camau gweithredu'n cael eu cymryd yn gyflym yn erbyn safleoedd nad ydynt yn rhai hanfodol sy'n diystyru’r cyfarwyddiadau ac yn rhoi bywydau pobl mewn perygl drwy barhau i agor ar gyfer busnes.
Mae gwiriadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod safleoedd nad ystyrir eu bod yn hanfodol yn cydymffurfio â'r canllawiau, fel tafarndai, clybiau, bwytai a mwy.
Ar yr un pryd, mae'r cyngor yn aros am fanylion cymorth gan y llywodraeth sydd â’r nod o helpu busnesau yn ystod yr argyfwng, ac mae eisoes wedi rhoi ei gynllun ei hun ar waith, sef cyfnod dim rhent o dri mis i'r sawl sy'n defnyddio safleoedd y cyngor.
Mae'r canllawiau cenedlaethol ar y mater hwn wedi bod yn glir iawn. COVID-19 yw un o'r argyfyngau iechyd y cyhoedd mwyaf a welwyd yn y wlad hon am genedlaethau, ac mae safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio'n rhoi bywydau pobl mewn perygl.
Mae'n wych gweld bod mwyafrif helaeth y safleoedd yn y fwrdeistref sirol yn ymddwyn mewn modd cyfrifol, ac yn chwarae eu rhan wrth helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Bydd y cyngor yn cymryd camau gweithredu cadarn a chyflym yn erbyn unrhyw beth sy'n rhoi iechyd y cyhoedd a llesiant cymunedau lleol mewn perygl yn ystod y pandemig hwn, a byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos i sicrhau bod pawb yn glynu wrth y canllawiau cenedlaethol ar iechyd y cyhoedd.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol