Y Cyngor yn rhoi hwb i yrfaoedd 25 o brentisiaid ifanc
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Ionawr 2018
Mae pump ar hugain o unigolion talentog wedi cael hwb i’w gyrfaoedd diolch i raglen brentisiaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r 25 o brentisiaid ifanc, gyda chefnogaeth tîm Dysgu a Datblygu y cyngor, yn cael profiad gwerthfawr yn y gweithle, gan ennill cyflog a gweithio tuag at gyflawni cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, a hynny mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys Gweinyddu Busnes, Dysgu a Datblygu, Peirianneg Sifil a Strwythurol, a TG.
Mae’r brentisiaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi cyfleoedd di-ben-draw i mi ddatblygu fy hunan. Mae’r profiad o weithio mewn swydd wedi dysgu cymaint i mi yn ystod fy nghyfnod yma. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fanteisio ar ragor o gyfleoedd wrth i fy mhrentisiaeth fynd yn ei blaen.
Esta John, o’r prentisiaid Gweinyddu Busnes.
Mae 16 o brentisiaid wedi llwyddo i sicrhau swyddi llawn amser yn y cyngor ers mis Ebrill 2013, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i gynyddu mwy fyth ar nifer y prentisiaethau a’r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Addysg ac Adfywio: “Rwy’n falch iawn o glywed am y cynnydd o ran prentisiaethau yn y cyngor. Mae ein prentisiaid yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth ychwanegol inni wrth gyflawni dyletswyddau pwysig iawn ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i bob un ohonyn nhw wrth ennill eu cymwysterau cenedlaethol”.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am yr amryw brentisiaethau sydd ar gael yn y cyngor, ewch i’r tudalennau gyrfaoedd