Y Cyngor yn recriwtio staff ychwanegol i helpu i gynnal mynwentydd lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 29 Medi 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi recriwtio gweithwyr ychwanegol i helpu i gynnal mynwentydd ledled yr ardal.
Fel yr awdurdod claddedigaethau lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gyfrifol am fynwentydd Blaenogwr, Pen-y-bont ar Ogwr, Corneli, Pontycymer, Glynogwr, Trelales, Maesteg, Cwm Ogwr, Pencoed, Porthcawl, Sarn, Mynwent Eglwys Llangeinor, Mynwent Eglwys Betws a Mynwent Eglwys Glynogwr.
Mae dau aelod ychwanegol o staff wedi ymuno â’r timau claddedigaethau i’w helpu i ddal i fyny â gwaith y bu’n rhaid ei ail-flaenoriaethu oherwydd y pandemig, ac i ymgymryd â thasgau sy’n amrywio o agor beddi i waith cynnal a chadw cyffredinol.
Yn ogystal â thorri gwair, llwyni a gwrychoedd, a sicrhau bod y mynwentydd yn daclus ar gyfer ymwelwyr, bydd y staff newydd yn atgyweirio unrhyw ddifrod bach, yn sicrhau bod biniau’n cael eu gwagio’n rheolaidd, yn cael gwared ar sbwriel ac yn ymgymryd â gwaith lefelu a hau.
Gan ryngweithio â chyfarwyddwyr angladdau a’r cyhoedd, byddant hefyd yn helpu i sicrhau bod claddedigaethau, angladdau a gwasanaethau glan bedd yn cael eu cynnal yn ddidrafferth.
Mae ein tîm mynwentydd wedi gweithio drwy gydol y pandemig coronafeirws i gefnogi teuluoedd sy’n galaru drwy sefyllfaoedd hynod o heriol.
Maent yn parhau i chwarae rhan bwysig o fewn y gymuned, a hoffwn estyn croeso cynnes iawn i aelodau newydd y tîm.
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau