Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn parhau i gymryd camau gweithredol yn erbyn maes carafanau anghyfreithlon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn tawelu meddyliau preswylwyr sy’n byw ger maes carafanau anghyfreithlon yn Rhiwceiliog, Pencoed, ei fod yn parhau i gymryd camau gweithredu i ddatrys y tor-cytundeb cynllunio.

Ym mis Awst eleni, yn Llys Ynadon Caerdydd, llwyddodd yr awdurdod lleol i erlyn wyth diffynnydd: Coleen Price, Henry Price, Hendry Price, Teona Price, Margaret Price, Tom Roberts, Amy Preece a Danny Preece am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Atal mewn perthynas â dau wersyll sipsiwn anawdurdodedig ar dir yn Rhiwceiliog, Pencoed.

Roedd yr achosion llys yn dilyn penderfyniadau cynharach y cyngor i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer dau wersyll yn cynnwys carafanau sefydlog, carafanau teithiol, ystafelloedd dydd, ardaloedd cysylltiedig, a gwaith draenio ar ddau safle ar ochr ogleddol ac ochr ddeheuol Heol yr Eglwys.

Plediodd un o’r diffynwyr yn euog, a chanfuwyd y gweddill yn euog a chawsant ddirwy a gorchymyn i dalu dros £5,500 rhyngddynt, ond mae carafanau a strwythurau eraill yn parhau ar y ddau safle. Deallir bod apeliadau cynllunio wedi’u cyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn erbyn gwrthod y caniatâd cynllunio gyda disgwyl i’r broses apelio ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf. Fel rhan o'r broses apelio, byd trigolion a gyflwynodd sylwadau yn ystod y cam ymgeisio yn cael eu hysbysu er mwyn cynnig cyfle iddynt wneud sylwadau pellach. Bydd arolygwr cynllunio annibynnol yn ystyried yr apeliadau ac unrhyw dystiolaeth neu sylwadau a gyflwynwyd ac yn gwneud penderfyniad.

Yn y cyfamser, mae'r awdurdod lleol yn ystyried pa gamau ychwanegol y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â’r maes carafanau anghyfreithlon.

Fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd y cyngor, mae anghenion llety sipsiwn a theithwyr wedi'u nodi yn y drafft, gyda dau safle wedi'u marcio fel lleoliadau posibl.                                     

Rydym yn gweithio’n galed i ddatrys y problemau cynllunio cyn gynted â phosibl.

Rydym hefyd yn archwilio lleoliadau posibl ar gyfer bodloni anghenion teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr fel yr amlinellwyd yn y CDLl newydd.

Dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae'n ofyniad cyfreithiol i gynghorau gynnal asesiadau llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr. Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar y cyngor i fodloni anghenion a gydnabuwyd ar gyfer gwersylloedd, tra bod polisi cynllunio Cymru yn gofyn i gynghorau sicrhau bod safleoedd addas wedi'u cynnwys o fewn yn CDLl, pan nodir yr angen.

Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y