Y Cyngor yn parhau i fuddsoddi ar ffyrdd y fwrdeistref sirol
Poster information
Posted on: Dydd Iau 18 Mawrth 2021
Mae gwaith ail-wynebu’n cael ei wneud ar ffyrdd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o fuddsoddiad y cyngor i’r rhwydwaith priffyrdd lleol.
Gan ddefnyddio cyllid o Raglen Gyfalaf y cyngor a £500,000 ychwanegol a ddyrannwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, mae gwaith atgyweirio ar y gweill neu wedi'i gynllunio ar nifer o ffyrdd, gan gynnwys gwaith ail-wynebu sylweddol ar un o ffyrdd prysuraf y fwrdeistref sirol - y B4281 i'r gorllewin o Abercynffig.
Bwriedir gwneud gwaith ail-wynebu ar rannau o'r strydoedd canlynol:
- A4063 Teras Bryn (Bryn Cymer) Caerau
- Heol Hermon, Caerau
- Maesglas, Y Pîl
- Sychbant Avenue, Maesteg
- Maple Terrace, Maesteg
- Cae Bach, Llangeinor
- Tydraw Crescent, Y Pîl
- Sunnybank, Y Pîl
- West Street, Abercynffig
- Meadow Street, Abercynffig
- Heol Simonston, Bracla
- Heol Bradford, Betws
- Ystâd Ddiwydiannol Penllwyngwent
Dyrannwyd £1.5miliwn pellach i'w wario ar waith ail-wynebu yn ddiweddarach yn 2021-22 gyda lleoliadau i'w cwblhau erbyn diwedd y mis hwn.
Mae'r cyngor yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y rhwydwaith priffyrdd i wneud gwelliannau i gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae ardaloedd lle sydd angen gwaith yn cael eu nodi gan arolygwyr priffyrdd y cyngor sy’n defnyddio cyfres o asesiadau, arolygon cyflwr a phrofion gwrthsefyll llithro wrth hefyd gymryd i ystyriaeth materion a godwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr lleol.
Gwneir pob ymdrech i gyfyngu ar aflonyddwch tra bod gwaith gwella priffyrdd yn cael ei wneud.
Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau