Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn paratoi ar gyfer Brexit

Gan fod y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, mae paratoadau ar y gweill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl.

Dan arweiniad y Prif Weithredwr Mark Shephard, ffurfiwyd tîm prosiect a datblygwyd 'cofnodwr risgiau' i helpu'r awdurdod i baratoi am amrywiaeth eang o ganlyniadau posibl.

Gan fynd i'r afael â meysydd megis materion cyfreithiol, y gweithlu, cadwyni cyflenwi, cyllid ac arian, cynllunio brys, gofal cymdeithasol, addysg, yr economi a chydlyniant cymunedol, mae'r cofnodwr risgiau yn cynnwys pynciau sy'n amrywio o rwystrau ac oedi posibl yng nghadwyni cyflenwi’r cyngor i gynnydd yn nibyniaeth y cyhoedd ar wasanaethau hanfodol y cyngor.

Lansiwyd tudalen we i'r cyhoedd i gynnig cymorth ac arweiniad i breswylwyr, busnesau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau lleol. Gan gynnwys dolenni at wefan 'Paratoi Cymru' Llywodraeth Cymru, mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael.

Mae'r ansicrwydd parhaus sy'n amgylchynu penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu ei bod yn anodd cynllunio ymlaen llaw ag unrhyw elfen o sicrwydd, ond rydym yn gwneud popeth a allwn i baratoi ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys Brexit heb gytundeb.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n cyflenwyr i sicrhau bod cyflenwadau digonol ar gael, ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i rannu gwybodaeth ac adnoddau.

Does neb yn gwybod ar y cam hwn yr holl heriau y bydd Brexit yn eu cyflwyno. Hyd yn hyn, rydym wedi canolbwyntio ar faterion tymor byr a thymor canolig, ond wrth i fwy o fanylion ddod i'r golwg, byddwn hefyd yn ystyried goblygiadau'r tymor hirach.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Chwilio A i Y