Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn nodi Wythnos Gofalwyr 2020 mewn ffordd wahanol eleni

Bydd Wythnos Gofalwyr (8 – 14 Mehefin) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei nodi gyda lansiad ‘Cerdyn adnabod gofalwr’ newydd a chyfres o ddigwyddiadau ar-lein sydd wedi'u hanelu at bob gofalwr.

Mae'r wythnos yn rhan o ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i deuluoedd a chymunedau. Y mae hefyd yn helpu pobl nad ydynt yn ystyried eu hunain fel rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i ymuniaethu â gofalwyr a chael mynediad at gymorth sydd ei angen yn fawr.

Bydd y cerdyn adnabod newydd yn cefnogi gofalwyr yn eu rolau, er mwyn eu galluogi i gael mynediad i archfarchnadoedd ac i’r gwasanaethau brys eu hadnabod os oes angen, fel y byddant yn ymwybodol fod ganddyn nhw rywun sy'n ddibynnol arnynt.

Mae bron i 18,000 o drigolion lleol yn gweithredu fel gofalwyr di-dâl ar gyfer perthnasau, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion yn y fwrdeistref sirol ac mae'r pwysau dyddiol y gall gofalwr eu hwynebu, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws Covid-19, yn aml yn parhau i fod yn gudd o olwg y cyhoedd.

Wedi’i threfnu mewn partneriaeth â gwasanaeth llesiant gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, bydd Wythnos Gofalwyr 2020 hefyd yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau rhithwir:

Dydd Mawrth, 9 Mehefin: Panel agored i ofalwyr, 1 – 2pm

Gwahoddir pob gofalwr ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ymuno â'n trafodaethau panel, i rannu eich profiadau o'ch rôl ofalu ac i dynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf i chi.

Dydd Iau, 11 Mehefin: Coffi, sgwrs a gemau, 2pm – 3pm

Ymunwch â'n staff llesiant am sgwrs a rhywfaint o hwyl ysgafn! Cyfarfod rhithwir yw hwn ac anfonir gwahoddiadau trwy Zoom.

Dydd Gwener, 12 Mehefin: Bydd gofalwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu straeon gyda ni trwy gydol y dydd trwy ddyfyniadau, lluniadau neu luniau.

Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar: “Ar ran y cyngor, hoffem gydnabod y gwaith gwerthfawr y mae gofalwyr yn ei wneud yn ddyddiol.

Rydym am i ofalwyr wybod ein bod yn gwerthfawrogi y gall bod yn ofalwr rhoi boddhad ond gall hefyd fod yn heriol iawn, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trwy godi ymwybyddiaeth o faterion gofalwyr, cyfeirio pobl tuag at y gefnogaeth a gwybodaeth fwyaf priodol, a lansio’r cerdyn adnabod newydd, byddwn yn mynd peth o’r ffordd tuag at leddfu’r straen a gwneud eu bywydau ychydig yn haws.

Dywedodd y Cynghorydd Phil White, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Ceir hefyd linell gymorth 24 awr i ofalwyr, er mwyn eu cefnogi gyda'u dyletswyddau gofalu. Ffoniwch: 01656 336969.

Chwilio A i Y