Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi sylw arbennig i 26 o brentisiaid presennol a 21 o gyn-brentisiaid mewn digwyddiad unigryw i nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2019.

Ers iddo greu ei raglen prentisiaethau yn 2013, mae'r cyngor wedi cefnogi 62 o brentisiaid yn llwyddiannus, y mae llawer ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i weithio'n llawn amser i'r awdurdod lleol mewn amrywiaeth eang o swyddi gan gynnwys Gweinyddu Busnes, Dysgu a Datblygu a gwasanaethau TGCh.

Mae prentisiaethau yn rhoi cyfle i unigolion ddatblygu sgiliau proffesiynol pwysig ac ennyn profiad gwerthfawr tra'n ennill cyflog a gweithio tuag at gymhwyster achrededig.

Ymhlith prentisiaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n serennu ar hyn o bryd mae Jack Edwards, prentis rheoli adeiladu, a ddywedodd: “Mae prentisiaethau yn eich helpu i ennill cryn dipyn o brofiad gwerthfawr a fydd yn fuddiol ar gyfer fy nyfodol ac yn fy helpu i achub  y blaen yn fy ngyrfa. Rydw i bendant yn eu hargymell!"

Ymunodd Loren Stephens, sy'n 24 oed, â'r awdurdod lleol fel prentis mewn Dysgu a Datblygu a bellach mae ganddi swydd lawn amser. Dywedodd: "Mae gwneud prentisiaeth wedi fy helpu i fod yn rhan o yrfa rwy'n ei charu, ac wedi caniatáu i mi ddatblygu sgiliau ac ennill cymwysterau pellach."

Gall prentisiaeth yn aml fod yn gam cyntaf holl bwysig ar yr ysgol sy'n helpu i godi rhywun i mewn i yrfa newydd. Roedd dod â'n cyn-brentisiaid a’n prentisiaid presennol at ei gilydd yn eu galluogi i drafod eu profiadau gyda rheolwyr a staff uwch fel y gallwn gryfhau ein rhaglen prentisiaethau hyd yn oed ymhellach.

Rydym yn ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc drwy greu cyfleoedd prentisiaeth lle bynnag y bo'n bosibl a datblygu gweithlu'r dyfodol, a hoffwn ddymuno pob hwyl i'n prentisiaid ddoe a heddiw yn eu gyrfaoedd.

Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae'r prentisiaethau sydd ar gael gan y cyngor wedi'u hysbysebu ar dudalen swyddi cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Am fanylion pellach a chyngor ynghylch prentisiaethau, cysylltwch â Gyrfa Cymru ar 0800 100 900 neu ewch i wefan Gyrfa Cymru.

Chwilio A i Y