Y Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost mewn digwyddiad cyhoeddus
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 26 Ionawr 2018
Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Ddiwrnod Cofio’r Holocost heddiw mewn digwyddiad am ddim i’r cyhoedd i goffáu dioddefwyr ac anrhydeddu goroeswyr yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad.
Mewn partneriaeth â Choleg Penybont, cynhaliwyd y digwyddiad blynyddol yn Theatr Sony a chroesawyd mwy na 160 o aelodau o’r cyhoedd i gofio’r miliynau o fywydau diniwed a gollwyd yn yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad yn Rwanda, Cambodia, Bosnia a Darfur.
Gwestai arbennig y digwyddiad oedd Eric Murangwa Eugene, a oroesodd yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi yn Rwanda ym 1994, a siaradodd am ei brofiadau yn ystod yr hil-laddiad ac wedi hynny. Mae Murangwa yn ymgyrchwr angerddol dros addysg am hil-laddiad ac mae’n credu mai’r dewrder a’r ddynoliaeth a ddangoswyd gan aelodau ei hen dîm pêl-droed sydd i gyfrif am y ffaith bod ei deulu wedi goroesi.
Mae gan Murangwa ei ymgyrch ei hun i wneud chwaraeon yn rhan annatod o broses gymodi ac ailadeiladu Rwanda, trwy sicrhau y caiff chwaraeon ei ddefnyddio ar gyfer newid cymdeithasol a sgiliau bywyd, yn ogystal â gweithgareddau hamdden.
Yn rhan o’r seremoni, darllenwyd y ‘Saith Datganiad o Ymrwymiad’ traddodiadol gan gynrychiolwyr o’r gymuned a chynnwyd cannwyll goffáu gan Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Pam Davies. Cafwyd ugain eiliad o dawelwch hefyd i gofio’r bywydau a gollwyd yn y drasiedi.
Yn ogystal â hynny, rhoddodd y Rabi Michoel Rose o Synagog Unedig Caerdydd weddi Iddewig a darllenodd disgyblion o ysgolion lleol gerddi a hanes bywyd Rennie Inow. I gau’r digwyddiad, perfformiodd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio o Goleg Penybont, Kasey Jane Lewis a Kaitlyn Phippin, y gân ‘All That Matters.’
Gwahoddwyd y bobl a oedd yn bresennol i nodi eu meddyliau ar gerdyn post yn rhan o thema eleni - ‘Grym Geiriau.’ Postiwyd y rhain mewn blwch postio arbennig yn ystod y digwyddiad a byddant yn cael eu hanfon i Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost.
Mae’n hanfodol i bob aelod o’r ddynol ryw fyfyrio ar y gorffennol, a’i gofio a dysgu ohono a dyna pam yr ydym mor falch ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost yn y modd hwn bob blwyddyn.
Roedd yn fraint enfawr i ni groesawu Eric Murangwa Eugene. Mae ei stori yn ysbrydoliaeth lwyr ac rwy’n rhyfeddu at y modd y siaradodd yn wefreiddiol am ei brofiadau ei hun, yn ogystal â llawer o’r cyfraniadau teimladwy eraill y clywsom ni heddiw.
Mae ein digwyddiad coffio blynyddol yn ein galluogi fel cymuned i adlewyrchu ar ddigwyddiadau’r gorffennol a dod at ein gilydd i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Hywel Williams.