Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2022

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost eleni drwy annog trigolion i ymuno â’r Maer drwy oleuo cannwyll gofio gartref.

Bydd y Maer John Spanswick yn goleuo’r gannwyll ar 27 Ionawr wrth i’r wlad gymryd ennyd i dalu teyrnged i’r unigolion a gafodd eu herlid a'u lladd yn ystod yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad ledled y byd.

Oherwydd bod y pandemig Covid-19 yn parhau, bydd seremoni Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 y DU yn cael ei ffrydio ar-lein ddydd Iau 27 Ionawr am 7pm.

Am 8pm, anogir aelwydydd ledled y fwrdeistref sirol i ymuno â’r Maer, a gweddill y DU, wrth oleuo cannwyll a’i gosod yn ddiogel yn eich ffenestr, er mwyn cofio am yr unigolion a gafodd eu lladd oherwydd pwy oeddynt, a hefyd i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.

Thema eleni yw ‘Un Diwrnod’, ac mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn dweud bod modd ei dehongli mewn sawl ffordd, gan gynnwys dod ynghyd i ddysgu am yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad yn y gobaith na fydd hil-laddiad yn digwydd mwyach, un diwrnod yn y dyfodol. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar wefan yr Ymddiriedolaeth.

Yn y gorffennol, rydym wedi cynnal digwyddiad cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o'r Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad. Fodd bynnag, oherwydd bod y pandemig Covid-19 yn parhau, ni allwn ymgynnull yn bersonol eleni.

Byddwn yn parhau i nodi’r diwrnod drwy oleuo cannwyll gofio a fydd ar gael i’w gweld ar draws ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'n bwysig i ni i gyd fyfyrio, cofio a dysgu o'r gorffennol, a dyma pam ein bod ni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost bob blwyddyn.

Yn anffodus, nid rhywbeth mewn llyfrau hanes yw gwrth-semitiaeth, casineb a hil-laddiad, mae'n dal i ddigwydd ar draws y byd. Rydym yn annog pawb yn ein cymunedau i ymuno'n rhithiol, i anrhydeddu dioddefwyr a goroeswyr yr Holocost ac achosion diweddarach o hil-laddiad, a gofyn i ni'n hunain beth allwn ni ei wneud, gyda'n gilydd, i fod yn oleuni yn y tywyllwch i genedlaethau heddiw ac yfory.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Sefydlwyd Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr 2000, pan ddaeth cynrychiolwyr o 46 o wledydd ledled y byd ynghyd yn Stockholm i drafod ymchwil, coffadwriaeth ac addysg ynghylch yr Holocost. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, llofnododd yr holl fynychwyr ddatganiad yn ymrwymo i barhau i gofio am yr unigolion a gafodd eu lladd yn yr Holocost.

Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i ddarllen y Saith Datganiad o Ymrwymiad ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost:

  1. Rydym yn cydnabod bod yr Holocost wedi ysgwyd sylfaeni gwareiddiad modern. Bydd ei gymeriad a'i arswyd digynsail yn dal ystyr rhyngwladol am byth.
  2. Credwn fod rhaid i’r Holocost fod â lle parhaol yng nghof ein cenedl. Rydym yn anrhydeddu’r goroeswyr sydd yn dal yma gyda ni, ac yn ailddatgan ein nodau cyffredin o gyd-ddealltwriaeth a chyfiawnder.
  3. Rhaid i ni sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth oedd achosion yr Holocost ac yn myfyrio ar ei oblygiadau. Rydym yn gwneud adduned i gofio dioddefwyr erledigaeth y Natsïaid a phob hil-laddiad.
  4. Rydym yn gwerthfawrogi aberthau’r unigolion sydd wedi peryglu eu bywydau i ddiogelu neu achub dioddefwyr, fel maen prawf o allu dyn i fod yn dda yn wyneb drwg.
  5. Rydym yn cydnabod bod dynoliaeth wedi’i chreithio oherwydd y gred bod hilcrefyddanabledd neu rywioldeb yn gwneud bywydau rhai pobl yn llai gwerthfawr nag eraill. Mae hil-laddiad, gwrth-semitiaethhiliaethsenoffobia a gwahaniaethu’n parhau hyd heddiw. Mae gennym gydgyfrifoldeb i ymladd yn erbyn y drygioni hwn.
  6. Rydym yn addo i gryfhau ein hymdrechion i hyrwyddo addysg ac ymchwil ynghylch yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad. Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod gwersi digwyddiadau o'r fath yn cael eu dysgu'n llawn.
  7. Byddwn yn parhau i annog cofio’r Holocost drwy gynnal Diwrnod Cofio’r Holocost yn flynyddol. Rydym yn condemnio drygioni rhagfarn, gwahaniaethu a hiliaeth. Rydym yn rhoi gwerth ar gymdeithas rydd, oddefgar a democrataidd.

Er mwyn cofrestru ar gyfer seremoni Cofio’r Holocost y DU, ewch i: https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/ukhmd/

Chwilio A i Y