Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn mabwysiadu stryd ym Mhorthcawl ar gyfer peilot newydd

Bydd stryd heb ei mabwysiadu ym Mhorthcawl yn cael ei chynnal a'i chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Roedd Ynyslas yn un o'r miloedd o strydoedd ar draws Cymru a Lloegr na chafodd ei mabwysiadu gan unrhyw awdurdod, ac oherwydd hynny, roedd y trigolion a pherchnogion eiddo'n gyfrifol am ei chynnal a'i chadw.

Ond mewn peilot newydd gan Lywodraeth Cymru, bydd y stryd yn cael ei mabwysiadu gan y cyngor, ac mae cyllid wedi cael ei ddosbarthu i godi safon y briffordd a'r troedffyrdd, ac i sicrhau ei bod hi'n cael ei chynnal a'i chadw yn y dyfodol.

Bydd y cynllun sy'n werth £230,000 hefyd yn helpu i ddeall y goblygiadau o ran cost yn well wrth fynd i'r afael ag ôl-groniad hanesyddol strydoedd o'r fath ledled Cymru.

Dewiswyd Ynyslas o nifer o strydoedd heb eu mabwysiadu a gafodd eu hadnabod mewn adroddiad o 2010, a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe'i dewiswyd oherwydd ei bod yn cael ei hystyried yn un stryd a fyddai o fudd i'r nifer uchaf o drigolion ar gyfer cynllun yn ogystal â chyflwr gwael y troedffyrdd a gan fod goncrit yn torri mewn llefydd gwahanol ar y ffordd.

Bydd y gwaith yn Ynyslas yn cynnwys ailadeiladu troedffyrdd a phriffyrdd, arolygu ac atgyweirio draeniad priffordd, a gwneud gwaith cysylltiedig arall i sicrhau bod y briffordd yn addas i'w mabwysiadu.

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn cychwyn yn ystod yr haf neu'r hydref eleni gyda'r nod o gwblhau'r broses erbyn Mawrth 2022.

Dosbarthir y cyllid drwy gynllun peilot gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i hystyriaeth barhaus o fynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â strydoedd heb eu mabwysiadu ledled Cymru.

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu sicrhau'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru sy'n ein galluogi ni i gymryd cyfrifoldeb am un o'r nifer o strydoedd heb eu mabwysiadu ar draws y fwrdeistref sirol.

Er y bydd trigolion Ynyslas yn profi ychydig o anghyfleustra wrth i ni wneud y gwelliannau, fe ymdrechwn i achosi cyn lleied o darfu â phosib.

Drwy godi safon y stryd fel ei bod hi'n gallu cael ei mabwysiadu gan y cyngor, bydd yr ardal yn ffynnu yn y tymor hir, o ganlyniad i waith cynnal a chadw rheolaidd ac oherwydd y buddion o fod yn rhan o rwydwaith prif ffordd.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y