Y Cyngor yn mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) ar gyfer gwrth-semitiaeth
Poster information
Posted on: Dydd Llun 26 Tachwedd 2018
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r awdurdod lleol diweddaraf i fabwysiadu diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost (IHRA) ar gyfer gwrth-semitiaeth.
Yng nghyfarfod Cabinet y Pwyllgor Cydraddoldeb a gynhaliwyd ddydd Llun 19 Tachwedd, cytunwyd cynghorwyr ar y diffiniad canlynol sydd hefyd wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, dwsinau o gynghorau eraill y DU a'r pedwar heddlu ledled Cymru…
"Gwrth-semitiaeth yw math o ganfyddiad o Iddewon a allai gael ei fynegi fel casineb tuag at Iddewon. Mae amlygiadau rhethregol a chorfforol o wrth-semitiaeth yn cael eu hanelu at unigolion Iddewig neu ddi-Iddewig a/neu eu heiddo, tuag at sefydliadau cymunedol Iddewig a chyfleusterau crefyddol.”
- diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost ar gyfer gwrth-semitiaeth
Rydym eisiau gwneud popeth y gallwn i sicrhau nad oes lle i gasineb o unrhyw fath, gan gynnwys gwrth-semitiaeth neu wahaniaethu yn erbyn pobl am eu credoau yn ein cymunedau. Mae diffiniad yr IHRA yn helpu’r holl sefydliadau i ddeall ac adnabod achosion o wrth-semitiaeth, p’un a yw'n cael ei fynegi ar lafar, yn ysgrifenedig, ar ffurfiau gweledol neu drwy weithredoedd.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet y cyngor dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol