Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn ‘llwyr ymrwymedig’ i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu

Mae Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol wedi dweud bod yr awdurdod lleol yn llwyr ymrwymedig i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae'r Cynghorydd Dhanisha Patel yn cadeirio Fforwm Cydlyniant a Chydraddoldeb Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n dwyn y cyngor ynghyd â Heddlu De Cymru, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a Chyngor Hil Cymru i weithredu'n rhagweithiol a chynnig cefnogaeth i gymunedau amrywiol y fwrdeistref sirol a'u hanghenion.

Dywedodd: “Nid yw’r cyngor yn goddef hiliaeth na mathau eraill o aflonyddu a gwahaniaethu o gwbl.

“Rydym yn cefnogi aelodau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ein cymuned a'n staff yn llwyr, ac mae gennym ymrwymiad hirdymor tuag at fynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau o fewn ein cymunedau.

“Fel rhan o gydymffurfiad y cyngor â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn cyhoeddi data yn flynyddol ar ein Hasesiadau Effaith ar Gydraddoldeb sy'n sicrhau ein bod wedi ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig wrth wneud newidiadau i'n gwasanaeth a datblygiadau.

“Rydym yn cefnogi gwrthdystiadau heddychlon fel rhan o’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys (Black Lives Matter) yn llwyr, ond rydym yn annog yr holl gyfranogwyr i ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ymddwyn yn gyfrifol ac yn ddiogel bob amser – mae'n hanfodol nad oes unrhyw un yn peryglu ei fywyd ei hun na bywydau pobl eraill.

“Gall pobl hefyd gynnig eu cefnogaeth trwy gymryd rhan yn y brotest ar-lein a drefnwyd gan Gyngor Hil Cymru mewn partneriaeth â BAWSO a TUC Cymru a gynhelir ddydd Sadwrn rhwng 1pm a 3pm.”

Chwilio A i Y