Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad fel rhan o darged Sero Net 2030

Datganodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei argyfwng hinsawdd ei hun ym mis Mehefin 2020, a sefydlodd raglen Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd er mwyn ymrwymo i'r targed Sero Net 2030 fel sefydliad. 

Strategaeth Carbon Sero Net 2030 Pen-y-bont ar Ogwr, neu 'Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr' yw'r cam cychwynnol strategol i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Bydd y strategaeth hon hefyd yn parhau i fod yn rhan annatod o Gynllun Corfforaethol a Chynllun Llesiant y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Nod targed y cyngor o gyrraedd statws Carbon Sero Net erbyn 2030 yw cydbwyso ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr gyda faint o nwyon rydym yn eu tynnu o'r atmosffer.

"Bydd clywed safbwyntiau a syniadau pobl ynghylch sut allwn ni weithio tuag at gyflawni’r targed wneud gwahaniaeth mawr wrth sicrhau ein bod yn ei gyrraedd."

Fel rhan o'r targed, mae'r cyngor wedi lansio ymgynghoriad i geisio safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch datgarboneiddio, yn benodol, y newid yn yr hinsawdd, ymrwymiadau'r cyngor, mentrau arfaethedig, lleihau ein hôl troed carbon a mwy. Datgarboneiddio yw'r broses o leihau 'dwysedd carbon' a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir drwy losgi tanwyddau ffosil.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Genedlaethau’r Dyfodol, y Cynghorydd Rhys Goode: "Mae'n hynod bwysig eich bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gan y bydd yn effeithio ar sut caiff Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr ei gweithredu a sut fyddwn ni, fel awdurdod lleol, yn mynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

"Nid yw pawb yn ymwybodol o'r newid yn yr hinsawdd, ond mae pawb yn rhan ohono. Gweithgareddau dynol sydd wedi achosi'r rhan fwyaf o'r newid yn yr hinsawdd, a rhaid i ni weithredu nawr er mwyn helpu'r blaned a pharatoi'r ffordd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Bydd yr ymgynghoriad yn fyw o 9 Mehefin 2022 tan X Awst 2022 a chaiff trigolion eu hannog i gymryd rhan a dweud eu dweud er mwyn sicrhau bod Strategaeth 2030 Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei chyflwyno'n effeithiol.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ar ein gwefan, neu os na allwch chi gael mynediad at ein gwefan, gallwch ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen.

I ofyn am yr ymgynghoriad ar ffurfiau amgen, cysylltwch â'r tîm Ymgynghori dros e-bost: consultation@bridgend.gov.uk, ffôn: 01656 643664 neu anfonwch neges destun: 18001 01656 643664.

Chwilio A i Y