Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn gwneud cais i wneud gwelliannau mawr i fannau gwyrdd lleol

Gallai coetiroedd, parciau, gwarchodfeydd natur a mannau gwyrdd eraill o gwmpas Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr elwa ar werth tua £740,000 o welliannau dros y tair blynedd nesaf.

Cytunodd Aelodau'r Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wneud cynnig am grant gan Lywodraeth Cymru i ariannu llwybrau teulu newydd, byrddau dehongli, biniau, arwyddion, gwelliannau i fynediad, rheoli cynefinoedd a gwaith i fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol.

Os yw'r cyngor yn llwyddiannus gyda'i gynnig am 'Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles' sy’n cyfateb i bron i £600,000, yna bydd yn ariannu'r costau sy'n weddill ei hunan, a bydd y prosiect 'Ein Mannau Gwyrdd' yn rhedeg rhwng gwanwyn 2019 a gwanwyn 2022.

Mae mannau gwyrdd sydd wedi'u rheoli'n dda yn rhoi gwell ansawdd bywyd i bawb, a byddai'r prosiect hwn yn ein galluogi i wneud gwelliannau mawr sy'n alinio â Chynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr.

Er mwyn helpu i wneud mannau gwyrdd mor addas â phosibl i deuluoedd â phlant ifanc, byddem yn hoffi creu llwybrau newydd i'r rhai bach eu dilyn a dysgu am eu hamgylchoedd, a threfnu mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyl yn ystod gwyliau'r haf. Rydym hefyd yn anelu at ddatblygu adnoddau addysgol newydd ar gyfer athrawon a theuluoedd i gynyddu cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored.

Rydym yn awyddus iawn i bawb fwynhau buddiannau iechyd eu mannau gwyrdd lleol ac felly rydym yn cynllunio nifer o welliannau er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl sy'n rhannol ddall ac i breswylwyr hŷn.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Ategodd y Cynghorydd Young: “Fel y mae pobl yn dod yn fwyfwy ymwybodol o broblemau iechyd meddwl, byddem wrth ein bodd petai ein mannau gwyrdd yn dod yn ganolfannau ar gyfer ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgareddau eraill a all gadw eich lefelau straen yn isel a gwella eich llesiant.

“Wrth gwrs, gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu hannog i fwynhau'r awyr agored, mae angen i ni leihau unrhyw effeithiau negyddol sy'n dod gyda hynny, felly agwedd bwysig arall ar y prosiect fydd gosod biniau ychwanegol ac ymgysylltu â'r gymuned leol ynglŷn â'u cyd gyfrifoldebau wrth ofalu am ein cefn gwlad.

“Byddai’r arian hefyd yn ein galluogi i gynnal unrhyw waith ychwanegol i leihau rhywogaethau goresgynnol fel planhigyn clymog Japan a Jac y Neidiwr i ddiogelu cynefinoedd, cynyddu bioamrywiaeth, lleihau erydiad pridd a’r perygl o lifogydd. Rydym yn falch o roi ein cefnogaeth i'r cynnig ariannol hwn ac yn gobeithio y bydd y cais yn llwyddiannus.”

Bydd y cyngor yn cael gwybod p'un a yw ei gynnig ariannol yn llwyddiannus yn y Flwyddyn Newydd.

Dylai unrhyw drigolion lleol sydd â diddordeb mewn cyfleoedd gwirfoddoli i helpu â gwaith cadwraeth cefn gwlad e-bostio biodiversity@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y