Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn ei gwneud yn haws nag erioed o’r blaen i ddefnyddio gwasanaethau lleol

Bydd gwefan newydd sbon a chyfleuster arloesol ‘Fy Nghyfrif’ yn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio gwasanaethau’r cyngor ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o heddiw (24 Ebrill) ymlaen.

Ni fydd yn rhaid i drigolion giwio nac aros ar y ffôn i wneud taliadau neu i ofyn am wasanaethau’r cyngor bellach diolch i’r wefan newydd, sydd wedi ei datblygu yn dilyn adborth gan 87 y cant o bobl a ddywedodd eu bod eisiau gwasanaethau ar-lein gwell, cyflymach a mwy rhyngweithiol.

Mae’r wefan wedi’i dylunio i gael ei gweld a’i defnyddio ar ddyfeisiau sy’n amrywio o ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechi, cyfrifiaduron personol a gliniaduron. Caiff defnyddwyr fynediad at bob rhan o’r wefan a’i defnyddio’n rhwydd ac mae’n cynnwys cyfleusterau chwilio gwell a ffurflenni ar-lein.

Mae hi hefyd yn cynnwys gwasanaeth ar-lein bob awr o’r dydd a’r nos dan yr enw Fy Nghyfrif sy’n golygu y bydd pobl yn gallu gwneud tasgau sy’n gysylltiedig â’r cyngor yn gyflym ac yn hawdd, bob awr o’r dydd a’r nos.

Mae hyn yn cynnwys pethau fel edrych ar fil treth gyngor, gwneud cais am fudd-dal tai, gwneud cais am ostyngiadau ac esemptiadau, gwneud taliadau ar-lein, creu a rheoli debydau uniongyrchol, tanysgrifio i e-filio a llawer mwy.

Wrth i Fy Nghyfrif ddatblygu, caiff ei ehangu i alluogi pobl i wneud pethau fel adrodd am dyllau yn y ffordd, ymgeisio am leoedd mewn ysgolion lleol, talu am brydau ysgol a rhoi gwybod i’r awdurdod am oleuadau stryd sydd wedi torri.

Mae lansio ein gwefan hygyrch newydd a’r gwasanaeth Fy Nghyfrif diogel yn rhoi mwy o ddewis a rhyddid i bobl wrth benderfynu sut y maen nhw eisiau cysylltu â’r cyngor a gwneud busnes.

Mae’n cynnig llawer mwy o hyblygrwydd ac mae’n fwy cyfleus, a chaiff pobl ddewis pryd, ble a sut y maent yn defnyddio gwasanaethau.

Gallwch gofrestru yn gyflym, yn hawdd ac yn ddiogel, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio i’r eithaf ar y buddion y mae Fy Nghyfrif yn eu cynnig.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw David

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams: “Mae’r wefan newydd a Fy Nghyfrif yn adlewyrchu sut yr ydym yn dod o hyd i atebion arloesol i’r heriau parhaus y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu.

“Bydd yn helpu i greu arbedion, yn enwedig os bydd pobl yn defnyddio Fy Nghyfrif i ddewis e-filio yn hytrach na defnyddio’r dull ‘bil trwy’r post’ mwy traddodiadol."

Chwilio A i Y