Y Cyngor yn egluro'i sefyllfa ariannol yn ystod y pandemig
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 29 Mai 2020
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran y gost ddisgwyliedig o £9 miliwn ar gyfer cwrdd â heriau pandemig COVID-19, mae'r awdurdod wedi ymateb i ymholiadau ychwanegol ynglŷn â'i gyllid.
Gan fod y pandemig wedi arwain at golli oddeutu £4 miliwn o incwm a £5m o gostau annisgwyl, gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch sut mae'r cyngor yn cwrdd â'r her. Un cwestiwn y gofynnir i ni yn rheolaidd, ond sy'n berthnasol iawn ar hyn o bryd yw pam na allwn ddefnyddio ein cronfeydd wrth gefn i dalu'r costau hyn. Ond mae ‘cronfeydd wrth gefn’ yn derm cyffredinol, ac er y gallai rhai dybio ei fod yn golygu arian sydd wedi’i roi o’r neilltu ar gyfer argyfwng, mewn gwirionedd mae'n golygu arian sydd wedi’i bennu at ddibenion penodol yn ogystal â sefyllfaoedd brys.
Dim ond rhan fach o'n cronfeydd wrth gefn sy'n ymgorffori cronfa wrth gefn y gallwn ei defnyddio yn ystod cyfnod o argyfwng eithafol, a chynhelir hyn yn unol ag arfer gorau ariannol – er enghraifft, rhag ofn bod angen i'r cyngor dalu cyflenwyr yn ystod argyfwng cenedlaethol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn gallu parhau. Mae’r coronafirws COVID-19 yn dangos yn berffaith pam mae’r gronfa wrth gefn hon yn angenrheidiol, ac er bydd angen i ni dynnu arian ohoni o bosib fel mae'r sefyllfa'n datblygu ymhellach, mae'r sefyllfa hefyd yn esblygu'n gyson mewn ymateb i gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru a'r llywodraeth ganolog.
Mater arall sydd wedi cael ei godi yn ddiweddar yw sut y gellir buddsoddi arian mewn awdurdodau lleol eraill a allai ei ddefnyddio mewn mentrau sydd wedi'u cynllunio i gynhyrchu refeniw. O ganlyniad i’r ffordd y mae llif arian parod llywodraeth leol yn gweithredu, gellir buddsoddi arian sydd wedi'i gadw at ddiben penodol hefyd nes bod ei angen. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n gyffredin bod cynghorau yn buddsoddi mewn awdurdodau eraill oherwydd yn wahanol i fuddsoddiadau preifat, mae gan gynghorau hanes o beidio â mynd yn fethdalwyr, mae'r arian yn cael ei dalu nôl o hyd, ac mae'r incwm a gynhyrchir o'r llog a enillir ar y buddsoddiad yn helpu i leihau costau ein holl wasanaethau, gan gynnwys lefelau'r dreth gyngor. Mae mwyafrif llethol o gynghorau’r DU yn gwneud buddsoddiadau risg isel o’r fath er mwyn sicrhau cymaint o werth â phosibl er budd preswylwyr. Byddai ceisio gwyro'r arian i faes arall yn golygu ceisio ei wario ddwywaith i bob pwrpas, ac nid yw hynny'n bosibl, wrth gwrs. Yn achos Pen-y-bont ar Ogwr, adroddir ynghylch gwaith o'r fath fel rhan o'n Strategaeth Rheoli’r Trysorlys flynyddol, y cytunir arni gan bob cynghorydd yn ystod cyfarfod o'r Cyngor llawn a bydd y Pwyllgor Archwilio yn craffu arni hefyd. Rydym hefyd yn destun arolygiadau annibynnol gan Archwilio Cymru, y corff archwilio allanol statudol. Gan ein bod yn cyhoeddi manylion llawn ynghylch sut mae'r cyngor yn gwario arian ac yn gosod cyllidebau ar wefan y cyngor, byddem yn cynghori'n gryf bod unrhyw un sydd am ddysgu mwy neu sydd am gael y ffeithiau llawn yn edrych ar ein gwefan.
Dirprwy Arweinydd Hywel Williams
- Ewch i dudalennau'r gyllideb yn bridgend.gov.uk am fwy o wybodaeth