Y cyngor yn egluro ei gynlluniau ar gyfer Bryn Bracla
Poster information
Posted on: Dydd Iau 11 Mawrth 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi egluro ei fwriad i ddiogelu man agored ym Mryn Bracla.
Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, dysgwyd na ellid defnyddio'r safle fel lleoliad posib ar gyfer ysgol gynradd newydd, a chysylltodd y grŵp cymunedol 'Save our Fields’ gyda'r cyngor i ofyn a fyddai'r awdurdod yn gweithio gyda'r sefydliad Fields In Trust i ddiogelu'r safle hwn yn gyfreithiol, a safleoedd eraill drwy weithred gyflwyno.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi ymrwymo i warchod Bryn Bracla fel man agored gwyrdd, am ei fod yn cydnabod gwerth mannau agored o ran llesiant corfforol ac emosiynol ei drigolion a'i gymunedau.
"Bydd y fan agored hon yn cael ei diogelu drwy Gynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr (LPD), gan mai dyma'r brif ddogfen gynllunio defnydd tir strategol sy'n arwain datblygiadau o fewn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol.
"Dyma hefyd yw'r elfen bwysicaf sydd angen ei hystyried o ran pennu ceisiadau cynllunio, gan fod cyfraith cynllunio yn datgan bod rhaid darparu cynllun datblygu wrth wneud penderfyniadau cynllunio.
"Mae ardal Bryn Bracla eisoes yn cael ei diogelu o fewn yr LDP cyfredol, ac mae wedi'i chynnwys o dan Bolisi COM13 (5) – Darparu Mannau Gwyrdd Naturiol Hygyrch, yn ogystal â nifer o fannau agored allweddol eraill o fewn y fwrdeistref sirol.
"Byddai unrhyw ddatblygiad posib ar gyfer yr ardaloedd hyn yn mynd yn erbyn y cynllun datblygu, ac felly'n cael ei wrthwynebu yn y telerau cynllunio.
"Bydd copi drafft o'r LDP yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn, a bydd yn cynnwys darparu mannau agored hygyrch penodol yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ac archwiliadau mannau agored.
"Bydd y cynllun yn cael ei roi gerbron ymgynghoriad cyhoeddus, ac ystyrir unrhyw sylwadau, cyn iddo gael ei archwilio gan Archwilydd Cynllunio allanol, gyda'r nod o roi'r cynllun ar waith yn 2022.
"Mae darpariaeth a phwysigrwydd mannau agored o fewn cymunedau wedi'u hamlinellu mewn polisi cynllunio cenedlaethol, megis Cymru'r Dyfodol 2040 a Pholisi Cynllunio Cymru, ac mae'r ddau wedi'u cynnwys yn y cynllun newydd.
"Er bod y cyngor yn deall cysyniad Fields in Trust, mae'n well ganddo weithio mewn partneriaeth gyda chynghorau tref a chymunedol lle fo'n bosib.
"Efallai y caiff yr ardal ei throsglwyddo drwy drosglwyddiad ased cymunedol i Gyngor Cymunedol Bryn Bracla, er mwyn diogelu defnydd yr ardal yn y dyfodol, ac i wella a buddsoddi yn narpariaeth amwynderau yno.
"Felly, efallai y bydd grŵp Save Our Fields eisiau ystyried cysylltu â'r cyngor cymunedol lleol mewn perthynas â hyn."