Y Cyngor yn edrych ar leoliad biniau sbwriel fel rhan o’r frwydr yn erbyn gwastraff
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 28 Ebrill 2021
Mae adolygiad o leoliadau biniau sbwriel yn cael ei gynnal fel rhan o brosiect i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb mwy uniongyrchol am y gwastraff maent yn ei gynhyrchu.
Gyda thai newydd a nifer o ddatblygiadau eraill ar wahanol gamau o’u datblygiad o amgylch y fwrdeistref sirol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal yr adolygiad i weld a yw biniau sbwriel yn y man cywir i ddiwallu anghenion trigolion lleol, neu a oes angen addasu eu lleoliadau.
Mae’n dilyn ymdrechion diweddar i frwydro yn erbyn taflu sbwriel trwy brosiectau hynod lwyddiannus fel y fenter ‘Ei Charu a'i Chadw'n Lân!', lansio tîm ymgysylltu â’r gymuned newydd a sefydlu hybiau sbwriel lleol lle gall gwirfoddolwyr gael offer a chyflenwadau.
Gyda hybiau sbwriel eisoes ar waith yng Nghanolfan Gymunedol Caerau, swyddfeydd Cyngor Cymuned Pencoed, Caffi Syrffio Coney Beach a Chanolfan Ieuenctid KPC yn y Pîl, mae hwb newydd ar fin agor yng Nghanolfan Crefft Traeth Rest Bay, ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ymestyn y cynllun i Bracla, Cwm Ogwr, Bryncethin, Porthcawl a Maesteg.
Rydyn ni bob amser yn chwilio am opsiynau i wneud y mwyaf o ailgylchu, newid agweddau at wastraff a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddelio â sbwriel. Er ei bod yn gwneud synnwyr gwirio’n rheolaidd bod biniau sbwriel yn y lleoliadau cywir i ddiwallu anghenion y cyhoedd, dylid cydnabod hefyd nad cyflwyno mwy o finiau yw’r unig ateb tymor hir. Mae'r polisi cenedlaethol wedi'i anelu at annog pobl i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am y gwastraff y maent yn ei gynhyrchu, a'r opsiwn a ffafrir yw mynd â sbwriel adref a'i ailgylchu yno.
Mae prosiectau fel y fenter ‘Ei Charu a'i Chadw'n Lân!' wedi gweld cymunedau lleol yn cymryd rhan weithredol mewn lleihau sbwriel a’i effaith. Mae byddin fach o wirfoddolwyr gwych yn cefnogi'r gwaith hwn, ac rydym yn gweithredu mewn partneriaeth agos ochr yn ochr ag unigolion, grwpiau a chlybiau yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol fel Cadwch Gymru’n Daclus. Byddwn yn ystyried canlyniadau’r arolwg biniau sbwriel yn ofalus, ac os bydd yn briodol, byddwn yn gwneud addasiadau lle bernir ei fod yn angenrheidiol. Bob wythnos, mae ein tîm Strydoedd Glanach yn sicrhau bod biniau sbwriel yn cael eu gwirio a'u gwagio ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.
Ar ddydd Mawrth a dydd Iau, maen nhw'n canolbwyntio ar faterion fel tipio anghyfreithlon, codi sbwriel ar hyd ffyrdd a phriffyrdd, glanhau a mwy. Yn gyffredinol, mae ein gwaith ar y penwythnos yn canolbwyntio ar ardaloedd lle mae yna nifer uchel o ymwelwyr, megis canol trefi a'r arfordir. Os hoffai unrhyw un gael manylion pellach am sut y gallant gymryd rhan wrth fynd i'r afael â'r effaith y mae sbwriel yn ei chael ar gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, byddwn yn eu gwahodd i gysylltu â cleanupthecounty@bridgend.gov.uk i ddarganfod mwy.
Dywedodd Janine Nightingale, Cyfarwyddwr Cymunedau