Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn diddymu'r tâl llogi ar gyfer clybiau pêl-droed a rygbi sy'n defnyddio meysydd chwarae a phafiliynau chwaraeon ar gyfer tymor 2019-20

Ni fydd yn rhaid i glybiau pêl-droed a rygbi ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr dalu'r tâl llogi ar gyfer defnyddio cyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer tymor 2019-20 ar ôl i'r awdurdod lleol ddiddymu'r ffioedd.

Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fod y penderfyniad wedi'i wneud er mwyn cymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau eithriadol ynghylch yr argyfwng Covid-19, ac ymrwymiad parhaus clybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned i gwblhau'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol ar gyfer cyfleusterau awyr agored.

Dywedodd: “Penderfynwyd, gryn amser yn ôl, i beidio â chodi tâl am gyfleusterau newid a meysydd chwarae a reolir gan yr adran barciau ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, rhwng mis Mawrth a mis Mai, ond fel arwydd o ewyllys da, rydym bellach wedi gwneud y penderfyniad i ddiddymu ffioedd ar gyfer y cyfnod o fis Medi 2019 hyd at fis Chwefror 2020.

“Rydym yn gwybod bod rhai clybiau'n wynebu anawsterau ariannol oherwydd y pandemig wrth i ffrydiau incwm leihau, ac rydym am wneud yr hyn a allwn i'w cefnogi.

“Mae'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol ar gyfer meysydd chwarae a phafiliynau chwaraeon yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r cyngor yn sgil y pwysau ar ei gyllidebau presennol ac i'r dyfodol, y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ymhellach arnynt.

“Mae'r holl gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer y broses o drosglwyddo asedau cymunedol yn amodol ar drafodaethau parhaus â chlybiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned fel y gallant ddod o dan hunanreolaeth ar lefel leol yn y dyfodol agos.                                                                                     

“Mae'n rhaid nodi, oherwydd y pwysau ariannol y mae'r cyngor yn eu hwynebu ar hyn o bryd, na fyddwn yn gallu darparu cymorth tebyg yn y dyfodol, a bydd yn ofynnol i glybiau chwaraeon dalu tâl llogi yn ôl y defnydd a wneir o gyfleusterau.”

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd yr awdurdod lleol becyn cymorth ychwanegol i gynorthwyo clybiau i wneud cynnydd yn y broses drosglwyddo. Roedd yn cynnwys arolygon o gaeau, lawntiau a wicedi, a chyllid penodol ar gyfer gwaith adeiladu, gwelliannau i gaeau/draenio, a grantiau cyfalaf i alluogi clybiau i brynu cyfarpar cynnal a chadw ar gyfer mannau gwyrdd.  Mae hyn yn ogystal ag ail-gyflunio Cronfa Cymorth Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr sy'n werth £75,000 - sy'n rhan o'r broses o drosglwyddo asedau cymunedol - er mwyn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i glybiau chwaraeon lleol yn ystod pandemig y coronafeirws.

Caiff clybiau a wnaeth gais am hyd at £1,000 i helpu â chostau gweithredu o ddydd i ddydd yn ystod pandemig y coronafeirws, eu hysbysu ynglŷn â chanlyniad eu ceisiadau yn gynnar ym mis Mehefin.

Chwilio A i Y