Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn datgelu mwy o fanylion am gynlluniau ar gyfer terminws bws newydd ym Mhorthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgelu manylion pellach ynglŷn â'i gynlluniau i ddarparu terminws bws newydd sbon ym Mhorthcawl.

Datgelwyd bod Terminws Porthcawl yn un o'r prosiectau lleol y mae'r cyngor yn ei ddatblygu fel rhan o fenter Metro Plus De-ddwyrain Cymru.

Gyda chyllid grant gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar waith, bydd astudiaethau dichonoldeb a dylunio yn cael eu cynnal i benderfynu a fydd hi'n bosibl datblygu'r terminws ar ben uchaf maes parcio Salt Lake.

Os bydd yn llwyddiannus, byddai'r terminws newydd, sydd wedi'i gynnwys fel rhan o uwchgynllun adfywio cyffredinol y dref, yn cael ei leoli gyferbyn â siop fwyd newydd sydd hefyd wedi'i chynllunio ar gyfer y pen hwnnw o'r safle.

Byddai'r terminws yn cynnwys oddeutu chwe bae ar gyfer bysiau ac yn cynnwys canopi a chysgod modern gyda byrddau gwybodaeth digidol a'r gallu i ddarparu ar gyfer cerbydau trydan.

Er mai megis cychwyn yr ydym, rwy'n falch o gadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i ddarparu terminws bws pwrpasol newydd i Borthcawl.

Ein diben yw sefydlu cyfleuster modern a fydd yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth pwrpasol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, a chynnig gwasanaeth parcio a theithio rhwng y dref a gorsaf reilffordd y Pîl sydd newydd gael ei hehangu.

Os bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn llwyddiannus, bydd y cynnig, wrth gwrs, yn destun ymgysylltu â'r cyhoedd fel rhan o unrhyw broses gynllunio ffurfiol, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cynlluniau'n datblygu ymhellach.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David

Mae Terminws Porthcawl yn rhan o'r fframwaith i wella'r metro ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy'n ceisio datblygu cysylltiadau gwell rhwng Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Chaerdydd fel rhan o gyfres o brosiectau trafnidiaeth yn y dyfodol.

Mae cam cyntaf y rhain yn cynnwys gwelliannau i orsaf reilffordd y Pîl er mwyn creu gwasanaeth parcio a theithio gyda mwy o gapasiti ar gyfer hyd at 75 o geir, baeau parcio beiciau newydd, pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a chysylltiadau gwell ag Ystad Ddiwydiannol Village Farm.

Mae ail gam y rhaglen yn cynnwys darparu gorsaf reilffordd newydd ym Mracla, a gwella capasiti pont reilffordd Heol Penprysg ym Mhencoed i i allu cau’r groesfan reilffordd.

Cytunwyd ar y rhaglen Metro Plus i ddechrau ym mis Mawrth 2019 pan nododd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth i Gymru, raglen arfaethedig o gynlluniau trafnidiaeth lleol gwerth £50 miliwn i gefnogi gweithrediad Metro De Cymru.

  • Ceir mwy o fanylion cyn bo hir.

Chwilio A i Y