Y cyngor yn cynnig sicrwydd ynghylch pryderon am COVID-19
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 02 Medi 2020
Yn dilyn pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch achos newydd posib o COVID-19 yn ardal Maesteg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhyddhau'r datganiad canlynol.
Tynnwyd ein sylw at straeon sy'n cael eu lledaenu ar y cyfryngau cymdeithasol am unigolion yn ardal Maesteg sydd wedi dychwelyd o Zante ac o bosib yn dangos symptomau COVID-19. Mae pob un o'r teithwyr a oedd ar yr awyren TUI i Gymru o'r ynys Roegaidd wedi derbyn y cyfarwyddyd i hunanynysu a chael prawf o fewn y 48 awr nesaf.
Rhaid i unrhyw un sy'n credu y gallai fod wedi dod i gysylltiad ag unigolion sydd wedi dychwelyd o Zante fod yn wyliadwrus o'r arwyddion sy’n gysylltiedig â symptomau COVID-19. Bydd ein Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cysylltu â'r safleoedd amrywiol yr honnir bod yr unigolion hyn wedi ymweld â nhw dros y penwythnos a byddwn yn darparu cymorth a chyngor.
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd drefnu prawf. Mae cael prawf coronafeirws yn rhad ac am ddim ac yn syml i wneud, naill ai trwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio'r rhif rhad ac am ddim 119.
Llefarydd dros Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd llefarydd dros Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae archwiliadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i nifer o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru wedi dangos bod diffyg ymdrechion i gadw pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif o bobl yn y grŵp oedran 20 i 30 oed, wedi arwain at ledaenu’r feirws i grwpiau o unigolion eraill.
“Rydym am wneud apêl uniongyrchol i bobl ifanc gofio, hyd yn oed os ydynt yn teimlo na fyddent yn cael eu heffeithio'n wael gan COVID-19, pe byddent yn derbyn canlyniad positif, ac yn ei drosglwyddo i aelodau o'r teulu neu ffrindiau a chydweithwyr sy'n hŷn ac yn fwy bregus, y gallai fod yn ddifrifol iawn, gan hyd yn oed arwain at farwolaeth.
“Er bod y cyfraddau heintio yn lleihau yng Nghymru, rhaid cofio nad yw’r coronafeirws wedi diflannu’n llwyr. Cyfrifoldeb pawb yw atal lledaeniad y feirws hwn - trwy hunanynysu pan ofynnir iddynt wneud hynny, aros dau fetr i ffwrdd wrth eraill, a golchi eu dwylo'n rheolaidd.
“Rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd i Gymru o wledydd sydd wedi'u nodi'n risg uchel fynd i gwarantin yn unol â rheoliadau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad hyd yn oed os nad ydynt yn cael symptomau COVID-19 neu wedi derbyn canlyniad negyddol o'r prawf.”
Er mwyn osgoi heintio'r unigolion yn eich tŷ, rhaid i bawb sy'n hunanynysu ac wedi cael canlyniad positif ar gyfer y coronafeirws:
- aros mewn un ystafell cyn belled ag y bo modd a chadw'r drws ar gau
- osgoi defnyddio mannau a rennir (fel y gegin) ar yr un pryd â'r unigolion eraill a bwyta'ch prydau yn eich ystafell
- defnyddio ystafell ymolchi ar wahân os yn bosib, neu fel arall, defnyddio'r ystafell ymolchi ar ôl pawb arall a glanhau'r ystafell bob tro ar ôl ei defnyddio, er enghraifft, trwy lanhau pob arwyneb rydych wedi cyffwrdd ag ef.