Y Cyngor yn cyhoeddi newidiadau i fannau gollwng ysgolion
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Chwefror 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi newidiadau i fannau gollwng mewn tair ysgol wedi iddynt gael eu cau am resymau diogelwch ddiwedd mis Tachwedd 2021.
Cafodd y mannau gollwng eu cau yn Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Gynradd Pencoed a Choleg Cymunedol y Dderwen yn dilyn prosesau monitro gan staff y cyngor, wnaeth gadarnhau nad oedd y mannau gollwng yn cael eu defnyddio’n gywir gan ychydig o ddefnyddwyr.
Cofnodwyd amryw o ddigwyddiadau o rai gyrwyr yn gwneud penderfyniadau gwael, symud yn beryglus yn y car, teithio’n gyflym, blocio neu beidio â defnyddio’r mannau parcio dynodedig yn gywir, ac anwybyddu cyfarwyddiadau swyddogion y safle.
I ddechrau, cododd yr ysgolion a’r cyngor lleol bryderon gyda rhieni a gofalwyr mewn llythyr a dros e-bost, ond gan na wnaeth y sefyllfa wella, penderfynwyd cyfyngu ar y defnydd o fannau gollwng i staff yn gweithio yn yr ysgolion yn unig, deiliaid Bathodynnau Glas a cherbydau cludiant o gartref i’r ysgol a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Penderfynwyd gweithio gyda’r ysgolion ar ddatblygu datrysiadau amgen.
Bu i swyddogion yr awdurdod lleol gwrdd y mis hwn gyda chynrychiolwyr ysgol, cadeirydd corff llywodraethu’r ysgol ac aelodau etholedig y cyngor i drafod y broses o ddileu’r mannau gollwng a’i heffaith ar ddisgyblion, rhieni a gofalwyr.
O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, mae’r trefniadau canlynol wedi’u cyhoeddi ar gyfer y tair ysgol. Bydd pob trefn yn cael ei gweithredu ar ôl gwyliau hanner tymor mis Chwefror:
Ysgol Gynradd Brynmenyn
- Bydd yr awdurdod lleol yn ail-agor y man gollwng ar gyfer defnyddwyr cymeradwy yn unig ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol gyda chyfyngiadau a mesurau rheoli ychwanegol ar waith.
- Bydd defnyddiwr cymeradwy yn cael ei bennu drwy broses ymgeisio y bydd y rhieni a’r gofalwyr yn cael gwybod amdani ar wahân gan yr ysgol.
- Bydd y man gollwng ‘dan glo’ ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol i sicrhau nad oes unrhyw gerbyd yn gadael nes ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny. Mae hyn yn golygu y bydd cyfyngiadau o ran nifer y cerbydau y mae lle ar eu cyfer yn y man gollwng.
- Ni fydd ‘mynediad agored’ cyffredinol ar gael i rieni/gofalwyr sy’n cyrraedd mewn cerbyd modur preifat.
- Rhaid i’r holl gerbydau cymeradwy fod ar y safle erbyn yr amser gofynnol. Ar gyfer dechrau’r diwrnod ysgol, bydd yr amser rhwng 8.30am ac 8.40am. Bydd bolard mynediad yn cael ei godi er mwyn atal mynediad ar ôl yr amser yma.
- Bydd parcio ‘mewn llinell’ ar waith a bydd swyddogion ar y safle yn rhoi gwybod ble y dylid parcio. Ni fydd cerbydau’n cael gadael dan unrhyw amgylchiadau nes bod yr holl ddisgyblion yn ddiogel y tu mewn i adeilad yr ysgol. Bydd bolardiau ger allanfa’r man gollwng yn atal cerbydau rhag gadael.
- Bydd cyfyngiadau ffisegol ychwanegol ar waith ar y safle (e.e. clustogau cyflymder). Ni chaiff cerbydau yrru’n gyflymach na 5mya ar dir yr ysgol, ac ni chaniateir gyrru am yn ôl ar unrhyw adeg.
- Ni fydd opsiwn i ollwng disgyblion Ysgol Gynradd Brynmenyn ar safle ysgol Coleg Cymunedol y Dderwen (oni bai bod hynny wedi’i drefnu ymlaen llaw).
Ysgol Gynradd Pencoed
- Mae’r awdurdod lleol wedi pennu y bydd defnydd o’r man gollwng ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol yn parhau i gael ei gyfyngu yn dilyn gwyliau’r hanner tymor.
- Bydd y drefn dim ‘mynediad agored’ cyffredinol i rieni / gofalwyr sy’n cyrraedd mewn cerbyd modur preifat yn parhau.
- Ar hyn o bryd, bydd mynediad i’r man gollwng yn cael ei gymeradwyo/rheoli gan yr ysgol ar gyfer rhai carfannau o ddisgyblion, rhieni/gofalwyr (e.e. y rhai sy’n mynd i’r lleoliad adnodd dysgu a disgyblion gydag anabledd corfforol).
Coleg Cymunedol y Dderwen
- Bydd yr awdurdod lleol yn ail-agor safle ysgol CCYD ar gyfer dechrau a diwedd y diwrnod ysgol, ond gyda chyfyngiadau a mesurau rheoli ychwanegol ar waith
- Bydd cyfyngiadau ffisegol ychwanegol ar y safle yn cynnwys gorfodi mannau gadael i atal mynediad heb awdurdod.
- Ni chaniateir i gerbydau heb awdurdod fynd i mewn i fannau bysus CCYD. Mae’r mannau bysus wedi’u dynodi ar gyfer bysus, bysus mini a thacsis cludiant ysgol.
Bydd y trefniadau newydd hyn yn cael eu monitro’n agos, ac os yw’r risg yn dod yn rhy fawr, ni fydd yr awdurdod lleol yn oedi cyn rhoi rhagor o gyfyngiadau ar waith. Nid yw’r sefyllfa’n hawdd ei rheoli, a diogelwch y disgyblion yw ein prif flaenoriaeth. Mae’n flaenoriaeth sydd yn bwysicach na phob ystyriaeth arall.
Hoffwn ddiolch i rieni a gofalwyr am fod yn amyneddgar wrth i ni weithio ar ddatrysiad i’r problemau gyda’r mannau gollwng yn Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Gynradd Pencoed a Choleg Cymunedol y Dderwen.
Rwy’n gwybod y bydd yr ysgolion yn ddiolchgar am gefnogaeth y rhieni a’r gofalwyr yn hyn o beth, a hoffwn ofyn i bawb sy’n cyrraedd mewn car sicrhau eu bod yn gyrru’n ddiogel, yn meddwl am ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau gan staff a swyddogion, ac yn eu trin nhw ac eraill gyda pharch.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio