Y cyngor yn cyflwyno cynnig buddsoddi gwerth £650 mil ar gyfer llwybrau teithio llesol ychwanegol fel rhan o'r ymateb trafnidiaeth i'r pandemig Covid-19
Poster information
Posted on: Dydd Iau 28 Mai 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno cynnig ariannu gwerth £650,000 i Lywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol dros dro a pharhaol fel rhan o fesurau trafnidiaeth i wella diogelwch a chyflwr llwybrau cerdded a beicio yn ystod yr argyfwng Covid-19 ac ar ôl hynny.
Mae'r cynnig yn ogystal â'r pecyn teithio llesol gwerth £4 miliwn a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol ym mis Chwefror 2020/21, sy'n aros am gymeradwyaeth ar hyn o bryd.
Os bydd yn llwyddiannus, byddai'r cynnig diweddaraf am arian yn galluogi cwblhau llwybr arfordirol Porthcawl ar hyd glannau Bae Trecco. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu mynd o Drenewydd yn Notais yr holl ffordd i Rest Bay.
Byddai hefyd yn galluogi rhan o'r ffordd rhwng cylchfan Llangrallo a chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn llwybr teithio llesol dros dro. Byddai'r rhan 2.5km yn cynnwys Rhodfa Ffordd y Brenin ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, a Heol York i Heol y Bont-faen. Byddai'r cynllun, y bwriedir iddo bara am 12 wythnos, yn cael ei fonitro.
Yn olaf, byddai'r arian yn helpu i greu mwy na 150 o fannau croesi i gerddwyr a beicwyr mewn cymunedau ar draws y fwrdeistref sirol. Mae'r croesfannau cyffyrddadwy'n caniatáu man mwy diffiniedig i gerddwyr a beicwyr groesi ffyrdd.
Mae'r holl gynlluniau hyn wedi bod yn yr arfaeth ers tro gyda dyluniadau wedi cael eu creu.
Ar gais Llywodraeth Cymru, rydym wedi dod â hwy ymlaen fel ffordd o gyflwyno mesurau i sicrhau diogelwch a dibynadwyedd dulliau trafnidiaeth cynaliadwy yn ystod yr argyfwng Covid-19 ac ar ôl hynny.
Mae llwybrau teithio llesol wedi bod yn flaenoriaeth i'r awdurdod lleol ers tro byd, ac yn fwyaf diweddar, mae llwybr cerddwyr a beicio diogel gwerth £1.5 miliwn wedi cael ei gwblhau i gysylltu Pencoed a Llangrallo â Phen-y-bont ar Ogwr."
Dywedodd Richard Young, Aelod y Cabinet dros Gymunedau
Ar ddechrau'r mis, dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a wnaeth wahodd awdurdodau lleol i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb, y dylai mesurau wedi'u hanelu at wella llwybrau cerdded a beicio roi blaenoriaeth i lwybrau sy'n rhan bresennol neu gynlluniedig o rwydweithiau llwybrau teithio llesol.
Dywedodd mai rhan o'r diben oedd sicrhau cadw pellter cymdeithasol, y mae disgwyl y bydd ei angen am sawl mis i ddod, a chreu amodau sy'n gwneud dulliau teithio ar wahân i'r car yn fwy diogel, iach a chyfleus.
Ym mis Chwefror, gwnaeth yr awdurdod lleol gyflwyno ceisiadau ar gyfer pecyn teithio llesol gwerth £4 miliwn i wneud gwelliannau i lwybr Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed, llwybr teithio llesol rhwng y Pîl a Phorthcawl, ac un arall rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phentref Manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr.