Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn cyflwyno cynlluniau i 'ailddechrau, adfer ac adnewyddu'

Mae cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi trafod cynlluniau am sut mae'r awdurdod yn bwriadu adfer ar ôl effaith pandemig y coronafeirws COVID-19.

Yn seiliedig ar dri cham allweddol, mae'r cynlluniau'n ystyried llacio’n raddol gofynion y cyfyngiadau symud cenedlaethol ar yr un pryd ag y bydd ymdrechion yn parhau i leihau lledaeniad y coronafeirws.

Bydd y cam cyntaf, Ailddechrau, yn ystyried pa gamau gweithredu sy'n angenrheidiol ar unwaith er mwyn ailgyflwyno gwasanaethau'r cyngor. Yn amrywio o'r cynllunio manwl mae ei angen i ddisgyblion fynychu sesiynau 'ailgydio a dal i fyny' mewn ysgolion lleol, i ddatblygu cynllun adfer economaidd lleol i gefnogi busnesau a masnachwyr, mae'r cam hwn yn ceisio adfer ychydig o normalrwydd i wasanaethau'r cyngor.

Mae'n ystyried materion fel ailagor Gorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr, adfer gwasanaeth llyfrgell i'r fwrdeistref sirol, ailagor meysydd parcio lleol, darparu canolfannau ailgylchu cymunedol a mwy, ac mae'n edrych tuag at y dyfodol gyda digwyddiadau a ragwelir fel codi cyfyngiadau teithio a llacio'r cyfyngiadau symud i gefnogi chwaraeon awyr agored, hamdden, a'r economi ymwelwyr.

Mae hefyd yn ystyried sut y gall cyfarfodydd y cyngor ailddechrau’n raddol, gyda chyfarfodydd rhithwir rheoli datblygu a'r cabinet eisoes ar waith a mwy o gyfarfodydd wedi’u cynllunio ym meysydd archwilio a chraffu ac i'r cyngor llawn.

Mae ail gam y cynlluniau – Adfer – yn ceisio datblygu ymateb strategol sy'n cynnwys y 12 i 18 mis nesaf ac a fydd yn cefnogi'r cyngor wrth iddo ddod allan o'r argyfwng. Bydd hwn yn dadansoddi sut y caiff gwasanaethau eu darparu ar hyn o bryd, a bydd yn edrych ar sut y gallant gael eu datblygu a'u gwella ymhellach mewn meysydd fel darpariaeth i’r digartref ar ôl codi'r cyfyngiadau symud, datblygu cyfleoedd digidol newydd, ailagor ysgolion ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi, cynaliadwyedd gwasanaethau diwylliannol a hamdden yn y dyfodol, annog defnydd mwy o lwybrau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, darparu strydoedd diogelach, a mwy.

Gyda llawer o staff y cyngor yn defnyddio TGCh i weithio gartref, bydd y cynlluniau'n ystyried sut y gallai anghenion cwsmeriaid fod wedi newid, sut y gall adrannau weithio'n agosach yn y dyfodol, a sut y gall cyllid y cyngor gael ei adolygu i dalu costau cyfredol wrth ystyried hefyd heriau'r dyfodol fel y potensial am bwysau cost ychwanegol, heriau llif arian, incwm a gollwyd, a mwy.

Fel rhan o hyn, bydd y cyngor yn ail-werthuso’i strategaeth gyllideb a'i Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i gefnogi cynllunio ar gyfer adfer a chyllid wedi’i ail-alinio yn barhaol.

Yn olaf, bydd trydedd ran y cynllun – Adnewyddu – yn ystyried uno hyn i gyd i greu model gweithredu newydd i'r cyngor, o bosib gyda newid yn y diwylliant gwaith i ystyried materion fel mwy o weithio hyblyg, llai o angen am swyddfeydd, mwy o ffocws ar ddatrysiadau digidol, mwy o waith partneriaeth lleol a rhanbarthol, arweinyddiaeth gymunedol, a mwy.

I gefnogi hyn, mae panel adfer trawsbleidiol wedi cael ei greu i helpu i lunio, llywio a chynghori'r cabinet ar gynnydd drwy gydol tri cham y cynllun.

Mae'r cyngor wedi mynd trwy newidiadau sylweddol dros y tri mis diwethaf, yn aml yn ymateb ar frys i amgylchiadau, canllawiau a rheoliadau sy’n newid. Mae gwasanaethau newydd wedi cael eu creu, mae rhai gwasanaethau wedi dod i ben, mae staff wedi cael eu hadleoli, ac mae arferion gwaith newydd wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae'r ffocws drwy gydol y cyfnod hwn wedi bod ar barhau i gyflawni gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, wrth geisio atal lledaeniad y feirws i achub bywydau. I wneud hyn, rydym wedi gorfod addasu’r gwaith o gyflawni gwasanaethau ar raddfa ac ar gyflymder digyffelyb, gyda llawer o'r newidiadau yn gorfod parhau y tu hwnt i gam hwn yr argyfwng, a dod yn rhan o'r 'normal newydd' o bosib i'r cyngor yn y dyfodol.

Mae'r ymateb gan holl staff y cyngor wedi bod yn eithriadol drwy gydol y cyfnod hwn, yn enwedig wrth ystyried yr heriau niferus a sylweddol rydym wedi'u hwynebu. Mae llawer o'n gweithwyr wedi mynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt fel arfer er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gyflawni gwasanaethau hanfodol yn effeithiol, ac rwyf am ddiolch iddynt a chydnabod eu hymdrechion hyd yn oed wrth i mi edrych ymlaen at weld sut y bydd y cynlluniau i ailddechrau, adfer ac adnewyddu yn datblygu ac yn cyflymu.

Huw David, arweinydd y cyngor

Chwilio A i Y