Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn croesawu cynlluniau ysgolion di-garbon

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd angen i holl gyfleusterau addysgol newydd fodloni targedau carbon sero net erbyn 1 Ionawr 2022.

Mae'r cyhoeddiad, sy'n cwmpasu adeiladau ysgol a cholegau newydd, estyniadau ac adnewyddiad mawr, yn alinio â chynlluniau’r cyngor ar gyfer prosiectau addysgol fel rhan o’i agenda moderneiddio ysgolion parhaus.

Mae’r rhain yn cynnwys cynigion fel creu ysgol fynediad dau ddosbarth newydd sbon a meithrinfa gyda lle i 75 o blant ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, ysgol fynediad dau ddosbarth cyfrwng Saesneg newydd, meithrinfa gyda lle i 60 o blant a chanolfan adnoddau gyda lle i 15 o ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ardal Corneli, estyniad i Ysgol Y Ferch O’r Sgêr, a datblygu ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd sbon yn ardal Porthcawl.

Rydym eisoes yn gweithio’n rhagweithiol tuag at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ddod yn genedl ddi-garbon erbyn 2050, ac mae ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn cymryd camau i ddod â ni’n nes at y nod hwnnw.

Er enghraifft, dan raglen Refit y cyngor, mae 18 ysgol leol eisoes wedi elwa o ystod o fesurau sy’n helpu i wella’u perfformiad ynni, lleihau biliau ynni a lleihau allyriadau carbon. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno systemau ynni solar a rheolaeth adeilad newydd, goleuadau LED mwy effeithlon, prosesau rheoli gwell a buddion eraill, ac mae disgwyl i hynny arbed bron i filiwn cilowat yr awr o ynni a 249 tunnell o garbon bob blwyddyn.

Mae tua hanner yr ysgolion lleol hefyd wedi derbyn gwobr eco platinwm fawreddog y Faner Werdd, felly rydym yn croesawu’r gwaith da hwn a fydd yn ategu’r gofyniad newydd i fodloni gofynion carbon sero net statudol newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Wrth gyhoeddi’r gofyniad newydd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Bydd hefyd yn ofynnol i'r genhedlaeth gyntaf o ysgolion a cholegau dan y rheolau newydd arddangos gostyngiad o 20 y cant ar y carbon wedi'i ymgorffori, sef carbon sy’n cael ei allyrru drwy ddeunyddiau adeiladu a’r broses adeiladu.

“Gan y bydd angen rhagor o ostyngiadau yn y dyfodol, yn unol â chynlluniau carbon sero net ehangach Llywodraeth Cymru, bydd adeiladau arfaethedig newydd hefyd yn cynnwys cynlluniau bioamrywiaeth, teithio llesol a chyfleusterau gwefru cerbydau trydanol uchelgeisiol.”

Chwilio A i Y