Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn croesawu cyfranogiad cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr ym mhrosiect Eden Las

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu’r newyddion bod cwmni sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn arwain prosiect ynni adnewyddadwy arloesol Eden Las yn Abertawe.

Mae’r prosiect gwerth £1.7 biliwn a gyhoeddwyd heddiw, yn cynnwys morlyn llanw wedi’i ddylunio o’r newydd, gyda thyrbinau tanddwr o’r radd flaenaf yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy o’r strwythur 9.5km. 

Mae’r morlyn yn rhan o brosiect arfaethedig mwy Eden Las, sy’n cael ei arwain gan DST Innovations, sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a nifer o bartneriaid busnes, gyda chymorth gan Gyngor Abertawe ac Associated British Ports.

Wedi’i wneud yn bosibl diolch i gyllid gan y sector preifat, bydd Eden Las, a fydd yn arloesol ac yn rhoi hwb i’r economi, yn cael ei gyflwyno mewn tri cham dros 12 mlynedd.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ffatri cynhyrchu batris hynod o dechnolegol, cyfleuster storio batris ar gyfer ynni adnewyddadwy, canolfan ymchwil newid hinsawdd a’r môr, eco-gartrerfi arnofiol wedi’u hangori yn y dŵr a chasgliad solar arnofiol wedi’i angori yn ardal Doc y Frenhines.

Bydd Eden Las, a fydd wedi’i lleoli ar hyd ardal estynedig o dir a dŵr, tua’r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 o Abertawe, yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi ychwanegol ledled Cymru a’r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Bydd yr ynni adnewyddadwy a fydd yn cael ei gynhyrchu ar y safle yn pweru datblygiad cyfan Eden Las, gan gynnwys busnesau a datblygiad cymysg o dai fforddiadwy, ardaloedd byw â chymorth a fflatiau moethus. Oherwydd yr arloesedd ar y safle, bydd gan bob cartref hyd at 20 mlynedd o ddarpariaeth ynni adnewyddadwy a gwres wedi’u cynnwys yng ngwerthiant yr eiddo.

Dywedodd Tony Miles, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr DST Innovations: “Mae Eden Las yn gyfle i greu templed i’r byd ei ddilyn - defnyddio ynni adnewyddadwy a manteisio ar dechnolegau newydd a ffyrdd newydd o feddwl i ddatblygu, nid yn unig rhywle i fyw ac i weithio, ond i ffynnu hefyd.”

Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu yn dilyn trafodaethau yn seiliedig ar weledigaeth tasglu rhanbarthol dan arweiniad Cyngor Abertawe.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o’r angen i ddatblygu cyflenwadau ynni adnewyddadwy er mwyn cynnig trydan cynaliadwy a fforddiadwy i deuluoedd a busnesau.

“Bydd Eden Las yn gosod Abertawe a Chymru wrth wraidd arloesedd ynni adnewyddadwy byd-eang, yn helpu i greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda, yn lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol ac yn codi proffil Abertawe ledled y byd fel rhywle i fuddsoddi ynddo. 

“Rwy’n hynod falch bod consortiwm rhyngwladol dan arweiniad cwmni o Gymru wedi datblygu ein gweledigaeth o Ynys Ynni’r Ddraig yn brosiect arloesol sy’n cynnig cymaint o fudd ac yn adeiladu ar nod y cyngor i ddod yn ddinas sero net erbyn 2050.

“Mae’r prosiect hwn wir yn drobwynt i Abertawe, ei heconomi ac ynni adnewyddadwy y DU, ac yn hollbwysig, gellir ei ddarparu heb fod angen cymorthdaliadau gan y llywodraeth." 

Gallai'r gwaith o adeiladu safle Eden Las ddechrau yn gynnar yn y flwyddyn 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

Wrth groesawu cyfranogiad DST Innovations, sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David: “Mae hyn yn newyddion gwych, gyda chwmni o Ben-y-bont ar Ogwr yn arwain y cynnig. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r prosiect arloesol hwn yn datblygu a’r effeithiau cadarnhaol y bydd yn ei gael, yn lleol, ac o fewn y rhanbarth ehangach."

Chwilio A i Y