Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn croesawu cam nesaf cymorth busnes ac yn gwadu honiadau o 'ffafriaeth'

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd cam nesaf ei Chronfa Cadernid Economaidd yn dechrau ym mis Mehefin.

Gyda gwiriwr cymhwysedd ar gyfer ceisiadau newydd ar gael o ganol mis Mehefin, bydd gan fusnesau amser i baratoi ceisiadau am yr adeg pan fydd y gronfa'n ailagor yn llawn.

Bydd cam nesaf y gronfa'n rhoi mynediad i fusnesau i weddill y £100 miliwn o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, busnesau bach a chanolig, a busnesau mawr ledled Cymru.

O ran cymhwysedd, bydd cam dau'r gronfa'n gweithredu yn yr un ffordd â cham un, ond gyda diweddariad i'r microgynllun a fydd yn rhoi mynediad i gwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW.

P’un a yw’n rhyddhad ardrethi busnes, cymorth brys neu gymorth ariannol wedi'i gynllunio i reoli pwysau ar lif arian, mae amrywiaeth anferth o gymorth eisoes wedi bod ar gael i fusnesau yn ystod pandemig y coronafeirws COVID-19, y mae i gyd wedi bod yn hanfodol bwysig.

Gyda'r pandemig dal ar led, mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru'n gwneud cynlluniau ar gyfer lansio cam dau'r Gronfa Cadernid Economaidd. Fel bob tro, bydd y cyngor yn parhau i wneud popeth y gall wneud i gefnogi hyn, ac i sicrhau bod modd ei gyflwyno’n gyflym ac yn effeithlon.

Hywel Williams, y Dirprwy Arweinydd

Gan fynd i'r afael â honiadau diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol fod rhai ceisiadau am gymorth busnes yn ystod y pandemig wedi cael ffafriaeth dros rai eraill, ychwanegodd y Cynghorydd Williams: "Mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio'n ddiflino i roi cymorth a chefnogaeth i fusnesau lleol cymwys, gyda llawer ohonynt yn gweithio dros y penwythnos hyd yn oed i sicrhau bod ceisiadau'n cael eu prosesu mor gyflym â phosib.

“Gyda £27.5 miliwn mewn arian cymorth busnes wedi'i roi i fwy na 2,200 o fasnachwyr lleol hyd yn hyn a chyda'r staff yn gweithio'n hynod galed i brosesu mwy o geisiadau cyn y dyddiad cau o 30 Mehefin, mae'n siomedig gweld bod yr ymdrechion hyn wedi cael eu maeddu â honiadau anghyfiawn o ffafriaeth.

"Oherwydd bod gennym eisoes wybodaeth gyfredol a gofynnol am oddeutu 300 o fusnesau, mae wedi bod yn bosib talu rhai grantiau'n awtomatig heb fod y masnachwyr hynny'n gorfod darparu tystiolaeth newydd.

“Er bod hyn wedi golygu nad oedd yn rhaid iddynt gyflwyno cais, efallai fod rhai busnesau wedi cyflwyno cais ar yr un pryd ag yr oeddent yn cael eu talu'n awtomatig, gan ymddangos fel bod eu 'ceisiadau' wedi cael eu prosesu'n gyflym iawn.

"Ar draws yr amrediad cyfan o gymorth sydd ar gael, mae rhai ceisiadau hefyd wedi bod yn haws eu prosesu nag eraill yn seiliedig ar amrywiaeth eang o ffactorau gwahanol, gan gynnwys a yw'r holl dystiolaeth atodol wedi’i darparu, a yw'r broses ddilysu wedi gofyn am fwy o ddadansoddiad manwl, a yw manylion perthnasol penodol eisoes wedi'u hawdurdodi ac ar ffeil, ac yn y blaen.

“Rwyf am ei gwneud yn glir iawn fod yr holl geisiadau am gymorth wedi bod yn ddarostyngedig i’r un rheolau a rheoliadau yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, ac mai'r Pennaeth Cyllid a swyddog Adran 151 sydd wedi gwneud y penderfyniadau terfynol.

“Nid yw cynghorwyr wedi bod yn rhan o reoli ceisiadau o gwbl, ac ni chafwyd unrhyw ddylanwad gwleidyddol honedig ar y broses o gwbl.

“Rwy'n hynod falch o'n staff am eu hymdrechion gwych drwy gydol y pandemig wrth gyflawni cymorth sydd wedi bod gwerth miliynau o bunnoedd i fusnesau lleol, a hyderaf y bydd hyn yn parhau am gyhyd ag sydd angen."

Chwilio A i Y