Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn cefnogi galwad am gyllid i ddiogelu tomenni glo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi galwad gan Lywodraeth Cymru i'r adolygiad cenedlaethol o wariant nesaf gynnwys cyllid hirdymor i wneud tomenni glo ledled Cymru yn ddiogel.

Gyda rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gellid bod angen hyd at £600m dros y 10 i 15 mlynedd nesaf i gwblhau'r gwaith hwn a gan fod 40 y cant o domenni glo y DU wedi'u lleoli yng Nghymru, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi gofyn i Lywodraeth y DU ddyrannu cyllid i ddelio â'r problemau a etifeddwyd yn sgil cloddio am lo yn y cyfnod cyn datganoli.

Dywedodd: "Mae cyfrifoldeb cyfreithiol a moesol ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i roi sylw i'r mater hwn ac ariannu'r costau hirdymor hyn.

"Mae cyfle inni gydweithio yn ystod y blynyddoedd nesaf i fynd i'r afael â'r argyfwng sy’n ein hwynebu o ran yr hinsawdd a natur, ac mae’r adolygiad o wariant eleni yn gyfle i ganfod y tir cyffredin hwnnw a gadael gwaddol cadarnhaol, tecach a pharhaol i hen ardaloedd glofaol Cymru."

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhoddwyd sicrhad i breswylwyr fod hen safleoedd diwydiannol wedi cael eu harchwilio eisoes a'u bod yn cael eu monitro, ond mân-broblemau yn unig a ganfuwyd.

Yn dilyn effeithiau Storm Ciara a Storm Dennis yn 2020, mae'r cyngor wedi bod yn cydweithio'n agos â'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo fel rhan o'u hasesiad o fwy na 2,000 o gyn-safleoedd cloddio yng Nghymru.

Ar bob safle, cynhaliwyd archwiliadau tir er mwyn gweld a oes angen unrhyw waith, a defnyddiwyd meini prawf 'statws risg' a gytunwyd yn genedlaethol i ystyried effaith debygol tirlithriad, cwymp neu golli cadernid strwythurol mewn ffordd arall.

O ganlyniad, mae'r safleoedd wedi cael eu dosbarthu i gategorïau, sef A, B, C neu D. Mae categori D yn cynnwys lleoliadau lle byddai unrhyw darfu yn cael yr effaith fwyaf - er enghraifft, oherwydd eu bod yn ymyl priffordd gyhoeddus.

Mae'r tasglu wedi cadarnhau bod rhai tomenni glo yng Nghymru yn parhau dan reolaeth yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cynghorau lleol, er bod y mwyafrif ohonynt bellach yn nwylo perchnogion preifat.

Cofnodwyd bod 118 o hen domenni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. O'r rhain, mae 31 yng nghategori C neu D.

Hoffwn bwysleisio nad yw'r categorïau'n dynodi pa mor ddiogel neu ba mor beryglus yw safle. Yn hytrach, maen nhw'n adlewyrchu pa mor ddifrifol fyddai effaith debygol unrhyw gwymp, llithriad neu chwalfa. Byddai hen safle cloddio sydd mewn rhan anghysbell o'r fwrdeistref sirol, ymhell oddi wrth unrhyw ffyrdd neu seilwaith arall, yn annhebygol o gael effaith sylweddol pe bai problem yn codi o ran ei gadernid strwythurol. Ond byddai sgôr safle yn ymyl priffordd sy'n arwain i dref, er enghraifft, yn llawer uwch gan y byddai unrhyw lithriad yno yn creu rhwystr ar y ffordd.

Mae'r system gategorïau newydd wedi bod yn weithredol ers i'r stormydd yn 2020 achosi problemau sylweddol mewn ardaloedd cyfagos, ond roedd system fonitro leol yn bodoli eisoes ac mae honno wedi'n galluogi i reoli tomenni ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hanesyddol. O ganlyniad, mae gennym drefn sydd wedi hen sefydlu ar gyfer cynnal archwiliadau rheolaidd ar y cyd ag arbenigwyr o'r Awdurdod Glo. Yn ffodus, dim ond mân-broblemau y mae'r system hon wedi'u canfod hyd yma - pethau fel gwneud yn siŵr fod llystyfiant yn cael ei dynnu o gyrsiau dŵr neu fod mân-waith strwythurol yn cael ei gynnal, ac nid oes problemau sylweddol sydd angen sylw pellach neu frys wedi dod i'r wyneb.

Gall preswylwyr fod yn sicr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Tasglu Diogelwch Tomenni Glo i fonitro pob safle lleol, ac i sicrhau eu bod yn aros yn ddiogel. Rydyn ni'n cefnogi'r alwad ar Lywodraeth y DU i gydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, a dyrannu'r cyllid sydd ei angen i sicrhau bod yr hen domenni glo ledled Cymru yn parhau'n ddiogel ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Stuart Baldwin, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y