Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi helpu i nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd er mwyn amlygu’r cymorth sydd ar gael i bobl allu fforddio byw bywydau cynhesach, iachach a hapusach.

Mae’r diwrnod ymwybyddiaeth wedi’i drefnu gan yr elusen National Energy Action, a gyflwynodd wobr i’r cyngor yr wythnos diwethaf am ei brosiect dŵr pwll glo Caerau a fydd yn helpu i leihau biliau tanwydd i hyd at fil o gartrefi.

Mae’r prosiect arloesol yng Nghaerau – sydd wedi cael grant o £6.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei ddatblygu – wedi dod yn drydydd yn y Gwobrau Effaith Ynni Cenedlaethol a gynhelir gan National Energy Action ar y cyd â Nwy Prydain.

Mae’r cyfnod oer presennol yn ei gwneud hi’n fwy amserol nag erioed i godi ymwybyddiaeth o dlodi tanwydd, sy’n fater real iawn i lawer o drigolion yn ein cymunedau. Pan fo cyfran uchel o incwm aelwyd yn cael ei wario ar filiau ynni, mae’n rhaid i lawer droi at fyw mewn cartrefi oer sydd yn amlwg yn arwain at sgil-effeithiau andwyol ar eu hiechyd.

Fodd bynnag, mae llawer o waith rhagorol yn cael ei wneud yn lleol i ymdrin â’r broblem hon, ac mae gan y prosiect cyffrous dŵr pwll glo Caerau y potensial i arwain at effaith gadarnhaol iawn yng Nghwm Llynfi.

Hoffwn i hefyd gyfeirio pobl at Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim ar arbed ynni a gwelliannau effeithlonrwydd ynni rhad ac am ddim y mae llawer o aelwydydd yn gymwys ar eu cyfer. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.nestwales.org.uk.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau.

Dywedodd Maria Wardrobe, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol yn NEA: “Mae tlodi tanwydd yn broblem ddifrifol ac yn un na allwn ni ei datrys ar ein pennau ein hunain. Rwyf wrth fy modd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r ymgyrch ac yn helpu i sicrhau y gall trigolion fyw bywydau cynhesach, iachach a hapusach.”

Bydd prosiect dŵr pwll glo Caerau y cyngor yn defnyddio dŵr sydd wedi llenwi hen waith glo tanddaearol fel ffynhonnell adnewyddadwy o ynni gan ei fod wedi’i wresogi’n naturiol yn y ddaear i hyd at 20 gradd Celsius.

Mae’r cyngor wedi bod yn ymchwilio i sut y gellir echdynnu’r gwres gan ddefnyddio technoleg pwmp gwres a rhwydwaith o bibellau i gynhesu cartrefi cyfagos. Cwblhawyd astudiaeth o ddichonoldeb yn ddiweddar a bydd y canfyddiadau yn cael eu hadrodd mewn arddangosfa gyhoeddus yn yr haf. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2020 a bydd y cartrefi cyntaf yn cael eu cysylltu i’r system yn ystod gaeaf 2021.

Chwilio A i Y