Y cyngor yn cau pob parc a man chwarae yn y fwrdeistref sirol yn ogystal â maes parcio Rest Bay a maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl i'r cyhoedd
Poster information
Posted on: Dydd Llun 23 Mawrth 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau pob parc a man chwarae yn y fwrdeistref sirol yn ogystal â maes parcio Rest Bay a maes parcio Salt Lake ym Mhorthcawl i'r cyhoedd yn dilyn cyngor gan y llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol.
Mae hyn o ganlyniad i dorfeydd o bobl yn ymgasglu dros y penwythnos ar draethau a pharciau lleol.
Rydym wedi gwneud y penderfyniad hwn heddiw i gau bob parc a man chwarae yn y sir a maes parcio Rest Bay ym Mhorthcawl ar unwaith. Bydd y rhain ar gau hyd nes y ceir hysbysiad pellach. Mae'n hanfodol ein bod yn dilyn cyngor y llywodraeth i aros gartref lle bo hynny'n bosibl gan fabwysiadu mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Mae'n ofynnol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel ac yn iach cyn belled ag y bo modd gan helpu i atal lledaeniad y coronafeirws. Mae nifer fawr o awdurdodau lleol ledled y wlad wedi cymryd yr un camau gweithredu.
Dylai trigolion aros gartref lle bo modd a phan fyddwch yn mynd allan am awyr iach ac ymarfer corff, ceisiwch osgoi ardaloedd ble y gallai fod torfeydd a sefwch ddau fetr i ffwrdd o'ch gilydd. Ni fyddwn yn oedi rhag cymryd camau a allai helpu i achub bywydau.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David
Am y canllawiau a'r cyngor diweddaraf ar y coronafeirws, hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol, ewch i wefannau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth y DU a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.