Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y cyngor yn cadarnhau'r trefniadau ar gyfer gofal plant brys a sesiynau ‘dal i fyny’ mewn ysgolion lleol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd pob ysgol yn cau ar gyfer gwyliau'r haf 2020 ddydd Gwener, 17 Gorffennaf.

Bydd y sesiynau ‘ailgydio, dal i fyny a pharatoi’ a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu o fewn amserlen tair wythnos, gyda phob disgybl sy’n cymryd rhan yn derbyn dau ddiwrnod llawn o gefnogaeth.

Mae hyn yn cael ei drefnu er mwyn sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn gallu cael ei chynnal ac i flaenoriaethu diogelwch a llesiant disgyblion yn y sesiynau, sy'n gwbl wirfoddol.

Wedi'u cynllunio i helpu disgyblion i baratoi ar gyfer dechrau'r tymor ysgol newydd ym mis Medi, ni fydd unrhyw sancsiynau na chosbau ar gyfer plant nad ydynt yn cymryd rhan.

Bydd trefniadau amgen yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion meithrin amser llawn sydd wedi cael cynnig lleoedd ar gyfer mis Medi 2020. Mae ysgolion wrthi’n cysylltu â rhieni'n uniongyrchol gyda manylion pellach am hyn a'r sesiynau.

Bydd ysgolion hefyd yn darparu gofal plant brys i blant gweithwyr allweddol cymwys rhwng 8.30am a 4.30pm rhwng 22 Mehefin ac 17 Gorffennaf, ond ni fydd y gofal plant brys hwn ar gael yn ystod gwyliau'r haf rhwng 20 Gorffennaf a 31 Awst a bydd angen i deuluoedd wneud trefniadau gofal plant amgen.

Diogelwch ein dysgwyr a'n staff yw ein prif flaenoriaeth o hyd, ac mae'r trefniadau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u cynllunio er eu lles pennaf hwy. Mae'r trefniadau'n lleihau'r risg o fethu â gallu darparu cefnogaeth ddigonol a gofal plant brys o ganlyniad i alw gormodol am leoedd, gan sicrhau bod ysgolion yn gallu parhau i gynnal lefelau staffio a goruchwyliaeth ddiogel.

Anogwch eich plant i ddilyn y rheolau ynghylch COVID-19, ac i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o symptomau o ran eu hunain a'u ffrindiau. Ni ddylid anfon unrhyw blentyn i un o'r sesiynau neu ar gyfer gofal plant brys ar unrhyw gyfrif os bydd gan y plentyn dymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu wedi colli synnwyr arogl a blas.

Os yw'r plentyn neu unrhyw un arall ar yr aelwyd yn arddangos y symptomau hyn, rhaid dilyn arweiniad cenedlaethol o ran aros gartref a chadw pellter cymdeithasol. Diolch am weithio gyda ni wrth i ni geisio cyfyngu ar effeithiau'r pandemig, a pharhau i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth yn ddiogel wrth ddiogelu llesiant disgyblion, athrawon a staff.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Chwilio A i Y