Y cyngor yn cadarnhau newidiadau i ymweliadau â chartrefi gofal
Poster information
Posted on: Dydd Iau 10 Medi 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd yn gwneud newidiadau dros dro i’r trefniadau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal lleol.
Yn dilyn cyngor gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chynnydd yn nifer yr achosion positif o COVID-19 ar draws De Cymru, mae’r newidiadau’n cael eu cyflwyno ym mhob cartref gofal dan reolaeth yr awdurdod lleol ac yn y sector preifat fel mesur rhagofalus i ddiogelu iechyd a llesiant preswylwyr agored i niwed a staff.
Yn unol â threfniadau tebyg sydd eisoes wedi'u sefydlu mewn sawl ardal awdurdod lleol cyfagos, bydd y newidiadau yn golygu na fydd ffrindiau ac aelodau teulu yn gallu mynd i mewn i gartref gofal mwyach i ymweld â rhywun agos iddynt hyd nes y clywir yn wahanol.
Yn hytrach, bydd rhaid trefnu ymweliadau ymlaen llaw a defnyddio ardaloedd awyr agored yr adeiladau preswyl wrth gadw pellter cymdeithasol a dilyn gofynion hylendid dwylo. Bydd ymweliadau rhithwir ac ar-lein hefyd yn cael eu hannog, a rhoddir ystyriaeth i achosion lle mae preswylwyr yn agosáu at ddiwedd eu hoes a lle mae gofynion priodol ar waith mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol.
Mae'r newidiadau, a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, wedi'u rhannu gyda phob cartref gofal annibynnol lleol i sicrhau y gellir cynnal ymagwedd gyson.
Mae pandemig y coronafeirws yn bell o fod drosodd, a gydag achosion yn cynyddu ledled yr ardal, rydym yn cymryd camau nawr yn unol â'r cyngor diweddaraf i ddiogelu iechyd a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal a'r staff sy'n gwneud gwaith mor wych wrth ofalu amdanynt.
Rwy'n gobeithio bod pawb yn gallu gwerthfawrogi'r angen i gyflwyno'r mesurau dros dro hyn, ac y byddwch yn ein cefnogi wrth helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Bydd y cyngor a'i bartneriaid yn adolygu'r sefyllfa'n rheolaidd, a byddwn yn ceisio sicrhau bod trefniadau ymweld yn dychwelyd i'r drefn arferol eto cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny.
Arweinydd y cyngor, Huw David
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.